Mae’r Rhyl wedi ei gosod ar restr ‘crap trowns’ gwledydd Prydain, ac mae yna bocedi o dlodi enbyd yno.

Ond mae yna falchder hefyd ymysg y 27,000 o drigolion, a Rhys Owen sydd wedi bod yn clywed am yr ymdrechion diweddaraf i godi’r hen dref yn ôl ar ei thraed…

Does yna ddim llawer o drefi ar arfordir Cymru sydd wedi dioddef enw drwg fel y Rhyl dros y degawdau diwethaf.