Morgannwg v Swydd Efrog (dydd Mawrth, Medi 17)

Hon yw gêm olaf ond un y sir yn y Bencampwriaeth, ac mae Swydd Efrog wedi ennill o 186 o rediadau

Sgorfwrdd

Swydd Efrog yw gwrthwynebwyr olaf ond un tîm criced Morgannwg yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Mawrth, Medi 17).

Ar ôl colli o fewn tridiau yn erbyn Sussex yr wythnos ddiwethaf, mae’r sir Gymreig wedi llithro i’r seithfed safle yn y tabl, tra bod buddugoliaeth Swydd Efrog dros Swydd Gaerlŷr wedi’u gweld nhw’n codi i’r ail safle.

Dydy’r Saeson heb golli yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd ers 1987, pan gipiodd Rodney Ontong chwe wiced am 91, wrth i Forgannwg ennill o fatiad a 73 rhediad.

Dim ond dwy gêm arall mae’r sir Gymreig wedi’u hennill yn erbyn sir y Rhosyn Gwyn, ac roedd Ontong yn allweddol eto yn 1981 wrth gipio buddugoliaeth o ddeg wiced i’w dîm, ar ôl i John Hopkins daro 116, gydag Ezra Moseley hefyd yn cipio chwe wiced am 63.

Roedd Morgannwg yn fuddugol yn 1973 hefyd, gydag ugain wiced yn cwympo ar y diwrnod olaf i sicrhau buddugoliaeth o 65 rhediad.

Mae’r ddwy gêm ddiwethaf – yn 2021 a 2023 – wedi gorffen yn gyfartal.

Y tymor diwethaf, tarodd Shan Mahmood 192 – ei ganred cyntaf i’r sir – cyn i Matthew Revis gipio pum wiced mewn batiad am y tro cyntaf erioed i orfodi Morgannwg i ganlyn ymlaen, gydag Eddie Byrom a Sam Northeast yn taro canred yr un i achub y Cymry.

Daeth y gêm yn 2021 ar drothwy Cyfres y Lludw, wrth i Joe Root (Swydd Efrog a Lloegr) herio Marnus Labuschagne (Morgannwg ac Awstralia), ac roedd y gêm honno’n fyw ar Sky Sports.

Tarodd Root 99 tra bod Labuschagne allan heb sgorio am y tro cyntaf erioed yn y Bencampwriaeth.

Mae Kiran Carlson wedi sgorio 881 o rediadau y tymor hwn yn y Bencampwriaeth, ac felly mae angen 119 yn rhagor arno fe i gyrraedd carreg filltir bwysig, tra bod angen 76 ar Sam Northeast i gyrraedd y garreg filltir honno hefyd.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, C Ingram, B Kellaway, N Leonard, B Morris, A Tribe, J Harris, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Efrog: J Bairstow, F Bean, D Bess, B Coad, B Cliff, M Fisher, G Hill, A Lyth, W Luxton, D Moriarty, J Tattersall (capten), J Thompson, J Wharton

12:58

Rhagor gan Grant Bradburn, wrth edrych ymlaen at rownd derfynol Cwpan Undydd Metro Bank yn erbyn Gwlad yr Haf yn Trent Bridge, Nottingham:

“Rydyn ni eisiau rhoi ein hunain mewn sefyllfa i ennill,” meddai.

“Rydyn ni’n parchu’n fawr y ffaith fod Gwlad yr Haf yn glwb ac yn dîm pwerus iawn, ond rydyn ni’n mynd yno heb ofn, ac mae’r fformat 50 pelawd yn un mae ein chwaraewyr ni wir wedi’i gofleidio.

“Mae’n fath o griced lle gallwch chi weld y dull o griced rydyn ni’n ceisio’i chwarae, felly byddwn ni’n mynd i Trent Bridge heb ofn ac yn rhyddhau ein sgiliau ar achlysur rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen ato, lle mae’r chwaraewyr a’r clwb wedi ennill yr hawl i gystadlu am dlws.”

12:55

“Roedd hynny’n siomedig iawn,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg, am y perfformiad a’r canlyniad.

“Rydyn ni’n derbyn colledion yn erbyn timau da iawn dros yr wythnosau diwethaf, a dydyn ni ddim cweit wedi bod yn ddigon siarp ym mhob agwedd.

“Dydyn ni ddim eisiau colli, wrth gwrs, ond does dim ots gyda ni golli os ydyn ni’n rhoi ein hunain mewn sefyllfa i ennill.”

11:30

CANLYNIAD

Morgannwg 209 i gyd allan.

James Harris wedi’i fowlio gan Jordan Thompson am 49.

Buddugoliaeth o 186 o rediadau i Swydd Efrog.

11:18

Mae Morgannwg wedi colli dwy wiced ar y bore olaf.

Maen nhw’n 188 am naw, yn cwrso 396 i ennill.

James Harris 31 heb fod allan, yn batio gyda Ben Morris.

19:10

DIWEDD, Diwrnod 3

Morgannwg 141 am saith, yn cwrso 396 i ennill.

Asa Tribe 50 heb fod allan.

Pedair wiced i Ben Coad.

Mae angen 255 yn rhagor arnyn nhw ar y diwrnod olaf i ennill, ond mae’n debygol iawn mai ceisio batio’r diwrnod cyfan fyddan nhw er mwyn sicrhau gêm gyfartal. Dim ond buddugoliaeth fydd yn gwneud y tro i Swydd Efrog, sy’n ceisio dyrchafiad.

15:41

TE, Diwrnod 3

Morgannwg 72 am ddwy, yn cwrso 396 i ennill.

15:03

396 yw’r nod i Forgannwg, ac maen nhw eisoes wedi colli dwy wiced fawr – Sam Northeast a Colin Ingram. Dwy wiced i Ben Coad.

Roedd Swydd Efrog i gyd allan am 273, wrth iddyn nhw osod nod swmpus i’r sir Gymreig. Cipiodd James Harris bum wiced – gan gynnwys ei 600fed mewn gemau dosbarth cyntaf – wrth ddychwelyd i’r tîm ar ôl gwella o anaf.

Mae hi am fod yn anodd achub y gêm hon – y dacteg fwyaf tebygol yw ceisio batio gweddill yr ornest er mwyn sicrhau gêm gyfartal. Gyda dyrchafiad yn y fantol i’r ymwelwyr, byddan nhw’n awyddus i fowlio Morgannwg allan a’i hennill hi. 

13:17

Yn y cyfamser, mae Sussex wedi ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf ar ôl curo Swydd Gaerloyw.

13:08

CINIO, Diwrnod 3

Swydd Efrog 224 am chwech, ar y blaen o 346 ac maen nhw’n prysur mynd â’r gêm tu hwnt i afael Morgannwg.

Finlay Bean 57.

Yn ystod y bore, mae James Harris wedi cipio’i 600fed wiced dosbarth cyntaf. 

11:36

Wrth gipio wiced Jonny Bairstow, gafodd ei daro ar ei goes o flaen y wiced, mae James Harris wedi cyrraedd y garreg filltir o 600 o wicedi dosbarth cyntaf yn ei yrfa.

Swydd Efrog 157 am bump, ar y blaen o 279.