Enw llawn: Esther Kate Garbett

Dyddiad geni: 20/3/1981

Man geni: Blacon, Caer (bellach yn byw yng Ngharmel, ger y Fron yng Ngwynedd)


Fe symudodd Esther Kate Garbett i Gymru i fyw pan oedd yn ddeuddeg oed, gan fod ei thad oedd yn Gymro yn angheuol wael ar y pryd ac eisiau dod “adref” i fyw. Er hyn, ers yn ddwy oed, cafodd Esther dreulio bob penwythnos neu wyliau ysgol gyda’i theulu yng Nghaernarfon yn eu carafán.

Bu i’r teulu wedyn fyw yn y garafán honno yn Ninas Dinlle cyn symud i dŷ bach yn y Groeslon. Ar ôl gadael yr ysgol uwchradd, aeth Esther i weithio fel weldiwr, ac yn ddiweddarach gweithiodd yng nghlwb nos Paradocs yng Nghaernarfon, cyn treulio’r rhan helaethaf o’i bywyd gwaith fel tatŵydd.

“Yn anffodus, dw i ddim yn gallu gweithio bellach oherwydd difrod mewnol i fy ngholuddyn / groth a difrod i’r bledren a nerf yng ngwaelod fy nghefn oherwydd deuddeg triniaeth wahanol ar gyfer chwe miscarriage a dau fully ruptured ectopics,” meddai.

Awtistiaeth ac ADHD

Mae’n dweud bod disgrifio ei hun yn anodd.

“Dw i’n eithaf distaw ac yn hoffi bod adref ar fy mhen fy hun gyda fy nghi…. Ond i eraill, efallai fy mod i’n edrych ar y tu allan fel person uchel ei chloch, eitha forward sy’n barod fy marn.

“Mae’n debyg bod hyn oherwydd fy mod i’n awtistig gydag ADHD a phersonoliaeth ffiniol. Dw i’n tueddu i fownsio oddi ar emosiynau pobol eraill a dw i’n gallu cyffroi yn hawdd o gwmpas pobol eraill.”

Petai’n gallu meistroli unrhyw sgil yn y byd, y gallu i “ganolbwyntio” fyddai hynny, meddai.

“Fe liciwn i allu canolbwyntio a cofio beth mae pobol yn ei ddweud neu beth rydw i’n ei wneud. Mae bod yn awtistig a byw gydag ADHD yn flinedig, ac weithiau dw i’n cael fy llethu a dw i’n teimlo’n rhwystredig.

“Ges i fy ngham-ddiagnosio fel math 1 deubegynnol am un mlynedd ar hugain. Mae wedi cymryd amser i mi ddarganfod pam dw i fel hyn. Does dim byd yn suddo i mewn, a dw i’n ei chael hi’n anodd cadw gwybodaeth oni bai ei fod yn ddarn diwerth o wybodaeth. Oeddech chi’n gwybod bod gan ieir fotymau bol? Ha ha! Felly, byddai gallu canolbwyntio yn sgil anhygoel i’w gael.”

‘Fy ngwyrth’

Y peth pwysicaf yn ei bywyd, meddai, yw ei merch Marli, sydd yn bymtheg oed.

“Hi yw fy ngwyrth. Fe’i ganwyd drwy IVF bymtheg mlynedd yn ôl ar ôl i mi golli wyth o weithiau. Fe ddywedon nhw wrtha i na fyddwn i fyth yn fam, felly hi yn bendant yw’r un peth rwy’n ei dal fwyaf annwyl”.

Ei phrif ddiddordebau yw crosio tedis wrth wylio Law and Order, ac mae hi wrth ei bodd hefyd yn darllen.

“Dw i’n hoffi crosio, gan ei fod yn cadw fy ymennydd yn dawel; mae cyfrif y pwythau yn cadw fy meddwl yn brysur ac yn fy helpu i ganolbwyntio. Hefyd, dw i’n cael gweld plant yn gwenu pan maen nhw’n cael tedi, neu weld rywun yn hapus pan dw i’n gwneud Memory Bear yn atgof iddyn nhw allan o ddillad eu hanwyliaid – mae’n ei wneud o werth o.

“Dw i hefyd wrth fy modd yn eistedd yn ein hen camperfan ar y corsydd tu ôl i Ddinas Dinlle a gwylio’r môr; eistedd a gwylio’r byd yn mynd heibio mewn heddwch a thawelwch ac, os bydd fy nghefn yn caniatáu, mynd am dro.”

Mae bywyd ychydig yn dawelach i Esther erbyn hyn. Er hynny, mae’r amrywiol heriau iddi eu dioddef yn tyfu i fyny yn dal i beri loes iddi, meddai. Fe gollodd ei thad yn dair ar hugain oed i broblemau’n ymwneud â chaethiwed i alcohol, ac yna colli ei nai ochr yn ochr â cholli wyth beichiogrwydd.

“Fe dorrodd hynny fi y tu mewn. Dydw i ddim yn siŵr y bydda i byth wir yn gallu goresgyn hynny,” meddai.

Pe bai yn gallu gwireddu un freuddwyd, treulio bywyd iach hir ac hapus gyda ei theulu a’r rhai mae’n eu caru fyddai honno, a threulio’r diwrnod gyda’i thad a’i nai.

“Mae’n siŵr taswn i’n cael treulio diwrnod yn gwneud unrhyw beth yn y byd, bod adref yn bwyta un o giniawau rhost fy mam fyddai hynny, tra’n gwrando ar Mam a Dad yn dadlau am bethau bach gwirion o flaen y tân, tra bod Dad yn gwneud i ni wylio rybish ar y teledu!”