Josh Navidi, cyn-flaenasgellwr tîm rygbi Cymru, yw’r seleb cyntaf i ymddangos yn y gyfres newydd o Iaith Ar Daith heno (nos Sul, Medi 15).

Mae e wedi cael cymorth y cyn-flaenwr rhyngwladol a’i gyd-Lew Ken Owens i ailgydio yn yr iaith Gymraeg, a magu’r hyder i’w siarad.

Yn y gyfres, bydd chwe seleb yn teithio i fannau gwahanol o Gymru er mwyn dysgu mwy o’r iaith, a hynny yng nghwmni mentor sydd hefyd yn wyneb adnabyddus.

Y selebs eraill fydd yn dysgu Cymraeg yn y gyfres yw’r actores Kimberly Nixon yng nghwmni’r actor Matthew Gravelle; y digrifwr Ignacio Lopez yng nghwmni’r digrifwr a chyflwynydd Tudur Owen; y canwr Ian ‘H’ Watkins gyda’r gantores a chyflwynydd Bronwen Lewis; yr actor Paul Rhys gyda’r actor Dyfan Dwyfor; a’r chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Jess Fishlock yng nghwmni’r cyflwynydd Catrin Heledd.

Mentor Josh Navidi fydd yn cynnig arweiniad ac ysbrydoliaeth iddo yw ei ffrind, Ken Owens, ‘y Sheriff’.

Magu hyder

Mae Josh Navidi wedi cynrychioli ei wlad 33 o weithiau ar y cae rygbi, ac mae’n angerddol dros ei famiaith ac yn awyddus i ddysgu mwy ohoni er mwyn magu’r hyder i’w siarad.

“Mae Mam yn siarad Cymraeg – mae hi’n siarad gyda fi yn Gymraeg, ond dwi’n ateb yn Saesneg,” meddai.

“Dw i eisiau ailgydio yn fy Nghymraeg.

“Mae’r Gymraeg yn rhan ohona i, ond mae jest angen yr hyder i ddatgloi hynny a medru siarad gyda phobol yn yr iaith.”

Symudodd tad Josh o Iran i Gymru yn sgil Chwyldro Islamaidd Iran yn 1979, a chwrdd â mam Josh, sy’n wreiddiol o Ynys Môn, ym Mangor.

Yn Llanddona, Sir Fôn mae ei daith yn dechrau, a hwnnw’n lle sy’n agos at ei galon, gan mai yno roedd ei Nain yn byw.

Ers ymddeol o’r cae chwarae, mae wedi troi ei law at nifer o fentrau, gan gynnwys sylwebu, DJio a gwerthu ceir.

Ymysg y tasgau sy’n ei wynebu ar ei daith mae gwerthu car mewn garej ym Methel, troelli recordiau, a chynnal taith o amgylch Stadiwm Principality – a phopeth drwy gyfrwng y Gymraeg!

Dysgu dwys

Cyn dechrau ar eu taith, cafodd pob unigolyn ddeuddydd dwys o ddysgu unigol gyda thiwtor Say Something in Welsh, cyn parhau i wneud ugain awr o ddysgu’n annibynnol gyda chwrs y mudiad.

“Mae cynnydd cyson wedi bod yn y nifer sy’n ein defnyddio yn y pum mlynedd diwethaf, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo, ac rydym yn credu bod mwy o bobol yn dysgu’r Gymraeg rŵan nag erioed o’r blaen,” meddai Aran Jones, Prif Weithredwr Say Something in Welsh.

“Rydym yn edrych ymlaen at ddal i gefnogi mwy a mwy o bobol i ddod yn siaradwyr hyderus.”

Mae tymor a chyrsiau Dysgu Cymraeg newydd ar gael ledled Cymru, wyneb yn wyneb, ac mewn dosbarthiadau rhithiol.

Ewch i wefan S4C am ragor o wybodaeth am sut i ddysgu, a’r adnoddau sydd ar gael gan S4C i’ch helpu.