Daeth cadarnhad mai Casnewydd fydd lleoliad Eisteddfod yr Urdd yn 2027 – a hynny wrth iddi ymweld â’r ddinas am y tro cyntaf erioed.

Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal yn Ysgol Gwent Is Coed heno (nos Iau, Medi 12), lle cytunodd neuadd o wirfoddolwyr a chefnogwyr mewn pleidlais unfrydol i groesawu’r Eisteddfod.

Mae’r Urdd a Chyngor Dinas Casnewydd wrthi’n trafod safleoedd posib ar gyfer y maes ar hyn o bryd.

Pwysigrwydd teithio

“Rwyf mor falch o weld cefnogaeth Cyngor Sir Casnewydd, a chymuned Rhanbarth Gwent gyfan i gynnal yr Eisteddfod yn 2027,” meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau.

“Un o elfennau pwysicaf Eisteddfod yr Urdd yw’r ffaith ei bod hi’n teithio, ac yn gallu ymweld ag ardaloedd sydd erioed wedi cynnal yr ŵyl.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda’r Cyngor a’r gymuned dros y tair blynedd nesaf i gynnig profiadau gwerthfawr i blant a phobol ifanc yr ardal.”

Cefnogaeth leol

“Rydym yn falch iawn bod Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau mai Casnewydd fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2027,” meddai Emma Stowell-Corten, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Gyfathrebu a Diwylliant ar Gyngor Casnewydd.

“Mae’n gyffrous meddwl y byddwn ni’n dod ag un o ddigwyddiadau blynyddol Cymru, ac un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop, i’n dinas am y tro cyntaf erioed.

“Braf oedd gweld cynifer yn dod i’r cyfarfod heno a chystal cefnogaeth o fewn ein cymuned i gynnal Eisteddfod yr Urdd yma.

“Fel datganwyd yn ôl ym mis Gorffennaf pan roddwyd sêl bendith gan Gabinet Cyngor Dinas Casnewydd i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd, rydyn ni’n awyddus i gynnwys cymaint o fusnesau a grwpiau cymunedol â phosibl yn y dathliadau, o ganol y ddinas ac ar draws Casnewydd, fel bod cymaint o bobol â phosibl yn profi bwrlwm digwyddiad diwylliannol mawr.

“Mae cynnal yr Eisteddfod yn unol â’n hamcanion o ran cynyddu nifer y plant yng Nghasnewydd sy’n dysgu drwy leoliad addysg cyfrwng Cymraeg, ond hefyd cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ehangach yn y ddinas.

“Mae’n gyfle gwych, un a allai adael etifeddiaeth gadarnhaol am genedlaethau i ddod, ac edrychwn ymlaen at ddangos y gorau o Gasnewydd i’r genedl unwaith eto!”

Eisteddfod yr Urdd yw un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop, sydd bellach yn denu dros 100,000 o gofrestriadau i gystadlu ac yn cyfrannu miliynau i’r economi leol lle caiff ei chynnal.

Castell-nedd Port Talbot

Yn dilyn Eisteddfod lwyddiannus ym Maldwyn eleni, mae’r paratoadau wedi hen ddechrau yng Nghastell-nedd Port Talbot, yr ardal fydd yn cynnal yr Eisteddfod flwyddyn nesaf.

Bydd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr yn cael ei chynnal ym Mharc Margam rhwng Mai 26-31, 2025.

Bydd yr Ŵyl yn croesi’r bont i Ynys Môn yn 2026, cyn ymweld â Chasnewydd, rhanbarth Gwent yn 2027.