Mae mwy na 1,000 o bobol wedi llofnodi llythyr agored yn galw ar gadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru i achub swyddi’r corws.

Daw’r llythyr at Yvette Vaughn Jones ar drothwy trafodaethau rhwng rheolwyr yr Opera ac undeb Equity, sy’n cynrycholi aelodau’r corws.

Mae disgwyl i’r trafodaethau ddechrau fory (dydd Gwener, Medi 13), ac i streic gael ei chynnal ar Fedi 21.

Mae’r llythyr yn galw ar y cadeirydd i wrthwynebu cynigion rheolwyr fyddai’n arwain at:

  • doriad o 15% fan lleiaf i gyflogau aelodau’r corws
  • gostyngiad yn nifer yr oriau gwaith sy’n rhan o’u cytundeb, er gwaethaf eu llwyth gwaith o ran perfformiadau ac ymarferion
  • gostyngiad yn nifer aelodau’r corws, gyda’r bygythiad gwirioneddol o ddiswyddiadau gorfodol

Yn ôl Claire Hampton, sy’n aelod o’r corws ac yn gynrychiolydd Equity, mae hi’n fam i dri o blant sy’n byw bywyd syml.

Dywed y bydd y toriadau’n golygu ei bod hi’n derbyn cyflog ychydig yn uwch na’r isafswm cyflog, a bod hynny’n “anghynaladwy”.

Ychwanega y gallai olygu bod yn rhaid iddi adael ei chartref a’r sector.

‘Cefnogaeth gref’

“Mae’n anhygoel gweld y fath gefnogaeth gref i aelodau corws Opera Cenedlaethol Cymru,” meddai Simon Curtis, Swyddog Equity yng Nghymru.

“Mewn llai nag wythnos, mae mwy na 1,000 o bobol wedi llofnodi’r llythyr agored at gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Opera Cenedlaethol Cymru yn galw arni i wrthwynebu cynlluniau niweidiol rheolwyr sy’n bygwth swyddi, bywoliaethau a dyfodol yr opera yng Nghymru.

“Gobeithiwn y bydd rheolwyr Opera Cenedlaethol Cymru yn cofio hyn pan ddaw i’r trafodaethau fory.”

Pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol

Yr wythnos ddiwethaf, pleidleisiodd 93% o aelodau’r corws o blaid gweithredu’n ddiwydiannol yn sgil y newidiadau arfaethedig.

Roedd hyn yn cynnwys gweithred sydd yn fyr o streicio.

Mae pob aelod o’r corws yn aelodau Equity, ac fe bleidleisiodd pob un ohonyn nhw.

Pe bai’r weithred yn cael ei chynnal os na fydd cytundeb cyn hynny, dyma fyddai’r tro cyntaf i’r corws gynnal y fath weithred ers ei sefydlu yn y 1940au.

Bydd dyddiad y weithred gyntaf yn tarfu ar noson agoriadol Rigoletto ar Fedi 21, a bydd streiciau pellach yn cyd-daro ag Il Trittico ar Fedi 29 ac Opera Favourites at the Movies ar Hydref 11.

Gallai gweithredoedd eraill ddilyn hefyd, rhwng Medi 21 a Rhagfyr 6, a gallai’r rhain gynnwys protestiadau yn ystod ymarferion a gwahanol adegau cyn, yn ystod ac ar ôl perfformiadau, gan gynnwys dosbarthu taflenni, traddodi areithiau a gwisgo dillad anaddas ar gyfer perfformiadau.

Mae corws Opera Cenedlaethol hefyd wedi denu cefnogaeth Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) ac aelodau undebau amrywiol.

Fis Gorffennaf eleni, pleidleisiodd aelodau Undeb y Cerddorion yng ngherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru o blaid streicio ynghylch toriadau a chynigion tebyg gan reolwyr.

93% o gorws Opera Cenedlaethol Cymru o blaid gweithredu’n ddiwydiannol

Roedd pob aelod o’r corws wedi pleidleisio yn dilyn anghydfod dros swyddi a chyflogau