Bydd dwy gyfres yn cael eu darlledu ar S4C o’r rhaglen Cyfrinachau’r Llyfrgell.
Wedi’i chynhyrchu gan Slam Media, bydd y bennod gyntaf yn cael ei darlledu ddydd Mawrth nesaf (Medi 17) am 9 o’r gloch, ac mi fydd hi ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer hefyd.
Yn ystod y gyfres, bydd rhai o wynebau mwyaf adnabyddus Cymru’n ceisio gwneud synnwyr o ddirgelion hanesyddol.
Yng nghwmni’r gyflwynwraig Dot Davies, caiff yr enwogion eu tywys drwy goridorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, lle byddan nhw’n archwilio’u dirgelion personol.
Dros gyfnod o bedair pennod, cawn ddilyn y gantores a darlledwraig Cerys Matthews, yr arbenigwr natur Iolo Williams, y digrifwr a chyflwynydd Tudur Owen, a’r newyddiadurwr Maxine Hughes, wrth iddyn nhw ddarganfod straeon teimladwy a thorcalonnus ar adegau.
Dadorchuddio’r gorffennol
Mae taith Cerys Matthews yn dechrau gyda llun o fachgen 16 oed, gafodd ei ddarganfod mewn hen albwm teuluol gan ei diweddar dad.
Bu farw’r bachgen allan ar y môr, ond llwyddodd curaduron y Llyfrgell Genedlaethol i roi cofnodion iddi gafodd eu cadw gan forwr o’r un oed, o’r ddeunawfed ganrif.
Mae’r cofnodion yn paentio darlun byw o fywyd anturus y bachgen.
“Roedd yn anrhydedd darllen geiriau rhywun aeth mor bell a chyflawni cymaint, a dychmygu pa fath o fyd oedd e,” meddai Cerys Matthews.
Mae’r curaduron yn ei synnu ymhellach drwy ddangos tâp demo o sengl gyntaf Catatonia yn y Deyrnas Unedig, sy’n rhan o gasgliad gafodd ei roi gan Rhys Mwyn, rheolwr cynta’r band.
Caiff Cerys Matthews ei chyflwyno i eitemau o gartref olaf Dylan Thomas gafodd eu casglu o’r Chelsea Hotel yn ardal Manhattan yn Efrog Newydd hefyd.
‘Fformat rhyngwladol llwyddiannus’
“Rydym wrth ein bodd fod S4C wedi dangos cymaint o ffydd a chefnogaeth yn Cyfrinachau’r Llyfrgell o’r cychwyn cyntaf,” meddai Geraint Rhys Lewis, Cynhyrchydd Gweithredol gyda Slam Media.
Dywed ei fod wedi cyffroi ar gyfer dyfodol y rhaglen, a’r ffaith fod ITV Studios wedi “cydnabod fod gan y fformat potensial gwirioneddol ar gyfer marchnad ehangach”.
“Hoffem ddiolch hefyd i’r tîm yn y Llyfrgell Genedlaethol a gefnogodd ac a brynodd i mewn i’n dull poblogaidd o adrodd straeon,” meddai.
Dywed Llinos Wynne, Pennaeth Rhaglenni Dogfen Arbenigol a Rhaglenni Ffeithiol S4C, fod gan y rhaglen “fformat cyffrous sy’n cynnig cipolwg i’r gwyliwr ar hanes a thrysorau’r genedl trwy lygaid rhai o enwogion mwyaf poblogaidd Cymru”.
“Gellir gwreiddio’r syniad mewn unrhyw wlad a diwylliant a dyna’r allwedd i fformat rhyngwladol llwyddiannus,” meddai.
Mae Ella Umansky, Is-lywydd Caffael Fformat ar gyfer ITV, yn dweud bod y rhaglen yn “berl go iawn”.
“Rydym wedi cyffroi o fod yn gweithio gyda Slam ac S4C i lansio’r fformat yn fyd-eang,” meddai.
“Rydym yn edrych ymlaen at ddatgelu straeon cudd gwledydd eraill a chyfrinachau gorau enwogion ledled y byd.”