Arlunydd deunaw oed yw’r grym creadigol y tu ôl i gyfres cartŵn newydd sy’n ymddangos yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn digidol Cip yr Urdd.
Mae cymeriadau ‘Boncyrs’, sydd wedi’u creu gan Corb Davies, wedi’u hysbrydoli gan siaradwyr Cymraeg ifainc o bob rhan o’r byd.
Mae Cip yn cyrraedd dros 5,000 o danysgrifwyr bob yn ail fis, gan gynnig llwyfan i leisiau, barn a phrofiadau plant Cymru.
“Mae’r cartŵn yn adlewyrchu bywyd a hiwmor ein darllenwyr,” meddai Branwen Rhys Dafydd, Rheolwr Cyhoeddiadau a Chyfathrebu’r Urdd.
“Mae’r cartŵn newydd yma gan Corb Davies yn ddatblygiad cyffroes yn ein darpariaeth.
“Mae’r Urdd wastad yn chwilio am ffyrdd i gynnig cyfoeth o brofiadau sy’n gwneud y Gymraeg yn hygyrch i blant oed cynradd yng Nghymru a thu hwnt.”
Comisiwn
Mae Corb Davies, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd, wedi bod yn cyhoeddi cartwnau Cymraeg yng nghylchgrawn Cip dros y flwyddyn ddiwethaf.
Gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru a Chymru Greadigol, mae’r Urdd wedi ei gomisiynu i ddatblygu ‘Boncyrs’ ar gyfer pedwar rhifyn nesaf y cylchgrawn.
“Dw i mor ddiolchgar i’r Urdd am fy helpu i ddatblygu fy nghrefft fel cartwnydd a rhoi’r cyfle i fi gyhoeddi cartwnau yn Gymraeg,” meddai.
Yn rhan o’r prosiect, cynhaliodd y cartwnydd weithdy rhannu syniadau yn Ysgol Pen y Bryn yn Nhywyn, ac ymgynghorodd â disgyblion o Ysgol Sadwrn, sef ysgol ddigidol sy’n cynnig gwersi Cymraeg i blant ledled y byd.
“Roedd hi mor cŵl cydweithio gyda phlant am y tro cyntaf,” meddai.
“Roeddwn i’n gwerthfawrogi cael cipolwg i mewn i’w byd a’u dychymyg er mwyn datblygu eu syniadau i greu cartŵn sydd yn adlewyrchu eu profiad nhw o Gymru a’r Gymraeg.”
I ddatblygu ei sgiliau ymhellach, cafodd Corb Davies ei fentora gan yr awdur Manon Steffan Ros.
“Dw i wir wedi mwynhau!” meddai.
“Roedd cydweithio efo Corb a gweld y stori a’r lluniau gwych yn dod yn fyw yn gyffrous – mae o mor dalentog.”
“Mae syniadau plant bob amser yn wych ac mae’n grêt gweld cartŵn sy’n adlewyrchu eu bywydau a’u dychymyg.”
Dod â’r cymeriadau’n fyw
Mae cwmni animeiddio Turnip Starfish o Gaerdydd hefyd wedi cydweithio ar y prosiect, gan greu clipiau byr er mwyn dod â’r cymeriadau’n fyw.
“Roedd o mor cŵl i weld y cymeriadau dw i wedi’u harlunio yn symud ac yn siarad!” meddai Corb Davies.
“Dw i wedi dysgu gymaint ac mae’r prosiect wedi magu fy hyder mewn sawl maes.
“Dwi methu aros i glywed ymateb y plant nawr.”
Mae’r bennod gyntaf o ‘Boncyrs’ i’w chael yn rhifyn Medi o Cip (Medi 9), a bydd y stori’n parhau yn rhifynnau Tachwedd, Ionawr a Mawrth.
Tanysgrifiwch am ddim i dderbyn copi o’r cylchgrawn yn syth i’ch e-bost.