Mae gŵyl newydd sbon yn cael ei chynnal yng Nghastell Aberystwyth y penwythnos hwn (dydd Sadwrn, Medi 14).

Tîm o Gyngor Tref Aberystwyth sydd wedi trefnu’r ŵyl.

Wrth siarad â golwg360, dywed Sara Beechey, un o’r trefnwyr, eu bod nhw “wedi gweld bod yna fwlch i gynnal gŵyl Gymreig yn y dref ar gyfer y bobol leol a thwristiaid”.

“Mae’r ŵyl yn gyfle iddyn nhw gael gweld bod lle i fywyd Cymraeg modern yn y gymdeithas yn Aberystwyth, a dangos hefyd ein bod ni’n gallu cynnal gwyliau tebyg,” meddai.

Mae’r syniad o gynnal gŵyl yn yr ardal wedi’i esgor ers cryn dipyn o amser, ond roedd cyllid yn rhwystr rhag gwireddu’r freuddwyd.

Ond bellach, maen nhw wedi derbyn grant er mwyn bwrw ymlaen â’r ŵyl.

Balchder

Yn rhan o’r diwrnod mae gweithgareddau i blant gan gwmnïau a sefydliadau lleol, gan gynnwys Clwb Drama Arad Goch, yr ystafell ddianc Jengyd, a phabell Lego Cered.

Bydd grwpiau lleol yn difyrru’r cyhoedd, gan gynnwys dawnswyr Abattak, dawnswyr Seithennyn a Rock Project.

“Mae’r ymateb wedi bod yn dda iawn ac yn hynod galonogol a nifer o bobol o gymdeithas Cymraeg Aberystwyth yn falch iawn ein bod yn gallu cynnal gŵyl,” meddai wedyn.

Yn cynnig adloniant tua diwedd y pnawn mae’r bandiau lleol Bwca a Sgarmes, a bandiau eraill megis Band Pres Llanregub a Mellt, gyda Bwncath yn cloi’r noson.

Gobaith y trefnwyr yw sicrhau y bydd yr ŵyl yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn, ac maen nhw’n darogan y bydd oddeutu 500 o bobol yn dod i fwynhau’r diwrnod.