Mae delwedd o un o fawrion y byd chwaraeon yn creu hanes wedi’i hychwanegu at gasgliad lliwgar o flychau cyfathrebu Abertawe, ond mae delwedd o’r ddiweddar Frenhines Elizabeth II wedi diflannu.
Mae’r bocs newydd sydd wedi cael ei baentio ger cae criced a rygbi San Helen yn ardal Brynmill yn portreadu ‘chwech chwech’ Garry Sobers, y cricedwr amryddawn o India’r Gorllewin, pan oedd e’n chwarae i Swydd Nottingham yn erbyn Morgannwg ar Awst 31, 1968.
Ei gamp ar y cae ar lan y môr, yn erbyn bowlio Malcolm Nash, oedd y tro cyntaf i chwech chwech gael eu taro mewn pelawd mewn gêm griced dosbarth cyntaf.
Roedd cynghorwyr ardal yr Uplands eisiau cofeb barhaol i’r gamp drwy baentio’r blwch ar Heol King Edward, tu allan i hen dafarn y Cricketers.
Ac ers iddyn nhw gael y syniad, fe ddaeth i’r amlwg fod criced yn San Helen yn dirwyn i ben o ganlyniad i’r ffaith fod tîm rygbi rhanbarthol y Gweilch yn symud yno ar ddechrau tymor 2025-26.
Cafodd y blwch ei baentio gan gwmni Fresh Creative Co o Abertawe, wrth i bedwar cynghorydd Plaid yr Uplands ei ariannu drwy eu cyllideb gymunedol.
“Dw i’n credu ei fod yn fwy ingol fyth o ystyried y cynlluniau ar gyfer dyfodol y cae,” meddai Stuart Rice, un o gynghorwyr Plaid yr Uplands.
Hanes
Dechreuodd Clwb Criced Abertawe chwarae ar gae San Helen 149 o flynyddoedd yn ôl.
Mae disgwyl i’r clwb symud i gae arall yn y ddinas y flwyddyn nesaf.
Fis diwethaf, dywedodd Lance Bradley, Prif Weithredwr y Gweilch, na fydd y clwb criced yn symud tan ddiwedd haf nesaf, ond dywedodd ei fod yn gobeithio y gallen nhw symud eu gemau olaf er mwyn helpu’r tîm rygbi rhanbarthol i osod cae rygbi newydd ac eisteddleoedd cyn dechrau eu gemau nhw.
2019 oedd y tro diwethaf i Glwb Criced Morgannwg chwarae ar gae San Helen.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rhybuddiodd y clwb sirol na fyddai’r llain na’r cae allanol yn bodloni’r gofynion, ac roedd gwendidau o ran isadeiledd strwythurol.
Maen nhw wedi chwarae rhai gemau ar y Gnoll yng Nghastell-nedd, ond fyddan nhw ddim yn dychwelyd i San Helen.
“Mae’n gyfle gwych i’r Gweilch, ac mewn rhai ffyrdd fe fydd yn wych gweld chwaraeon proffesiynol yno’n rheolaidd, ond mae’n ddiwrnod trist i Glwb Criced Morgannwg na fyddwn ni’n gallu chwarae yn San Helen,” meddai Dan Cherry, Prif Weithredwr Morgannwg, wrth BBC Cymru ym mis Gorffennaf.
“Ond rydyn ni wedi ymrwymo i edrych ar opsiynau eraill.
“Rydyn ni’n awyddus i edrych ar bartneriaethau yng ngorllewin Cymru.”
Bywiogrwydd a lliw
Mae blychau cyfathrebu wedi ychwanegu bywiogrwydd a lliw mewn llefydd eraill yn Abertawe.
Fodd bynnag, mae un oedd yn ddarlun o’r ddiweddar frenhines yn ymyl Paddington yr arth a chorgi wedi’i ddisodli gan flwch safonol.
Dywedodd aelod o staff John Rickard Motor Factors Ltd gerllaw ei fod yn deall fod yn rhaid ei ddisodli fel rhan o waith ar oleuadau traffig y llynedd.
“Yn anffodus, roedd yn rhaid mynd â fe oddi yno – ond efallai y byddai modd ei ailwneud yn y dyfodol?” meddai.
Mae nifer o flychau wedi’u paentio ym Mhontarddulais, sydd wedi’u hariannu gan y cynghorwyr lleol Phil Downing a Kevin Griffiths.
“Roedd yn gyfnod Covid ar y pryd, ac fe wnaethon ni benderfynu rhoi gwên ar wynebau pobol,” meddai’r Cynghorydd Phil Downing.
Dywedodd mai disodli un y frenhines oedd y tro cyntaf i hynny ddigwydd.
“Does gennym ni ddim rheolaeth dros uwchraddio’r systemau hyn,” meddai.