Mae 93% o gorws Opera Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio o blaid gweithredu’n ddiwydiannol.

Roedd pob aelod o’r corws wedi bwrw eu pleidlais yn dilyn anghydfod dros swyddi a chyflogau.

Yn ogystal, mae aelodau’r corws, sy’n perthyn i’r undeb celfyddydau perfformio ac adloniant Equity, wedi pleidleisio o blaid gweithredu’n fyr o streic.

Mae Equity yn galw am sgyrsiau ystyrlon i ddatrys yr anghydfod ac osgoi streic yn ystod y perfformiadau sydd i ddod gan Opera Cenedlaethol Cymru.

Ar hyn o bryd, mae aelodau’r corws yn wynebu o leiaf 15% o doriad i’w cyflog, gostyngiad mewn oriau cytundebol er gwaethaf eu llwyth gwaith uchel o berfformiadau ac ymarferion, a thoriad i nifer cyffredinol aelodau’r corws.

Mae diswyddiadau gorfodol yn fygythiad gwirioneddol i gorws sydd eisoes yn brin o adnoddau.

Mae pob un o’r 30 aelod o’r corws yn aelodau o Equity, ac mae unrhyw weithredu diwydiannol posibl yn gallu amharu’n ddifrifol ar berfformiadau.

Mae mwyafrif y corws wedi bod yn Opera Cenedlaethol Cymru ers dros ddegawd, a dydyn nhw erioed wedi mynd ar streic o’r blaen.

‘Pleidlais ysgubol o ddiffyg hyder’

“Mae canlyniad y balot hwn yn bleidlais ysgubol o ddiffyg hyder yn rheolaeth Opera Cenedlaethol Cymru ac mae’n dangos na fydd aelodau’r corws yn derbyn y toriadau trychinebus,” meddai Paul W Fleming, Ysgrifennydd Cyffredinol Equity.

“Mae ein haelodau wedi blino o gael cyfarfwyddyd i fod yn wydn ac i ddelio gyda’i hamgylchiadau.

“Mae hon yn bleidlais ysgubol dros wrthwynebiad i’r ffaith bod rheolwyr yn fodlon derbyn y dewis gwleidyddol o lymder.

“Rhaid i reolwyr Opera Cenedlaethol Cymru ailedrych ar y cynigion anghyfiawn hyn a chymryd rhan mewn proses sy’n diogelu statws amser llawn ein haelodau ac yn cydnabod y gwerth enfawr y mae’r gweithlu tra medrus hwn yn ei roi i enw da’r cwmni a’i waith.”

‘Siom’

Mae Claire Hampton yn ddirprwy ac yn gynrychiolydd Equity yn y gweithle, ac mae hi wedi bod yn canu soprano gydag Opera Cenedlaethol Cymru ers 22 o flynyddoedd.

“Pleidleisiodd fy nghydweithwyr a minnau’n o blaid gweithredu’n ddiwydiannol, gan adlewyrchu ein siom ynghylch cynigion i dorri ein cyflogau a hyd ein cytundebau,” meddai.

“Nid oedd hwn yn benderfyniad hawdd i unrhyw gantores i’w gymryd, ond nid ydym wedi cael unrhyw ddewis wrth i ni wynebu’r effaith ddinistriol y bydd newidiadau arfaethedig yn ei chael ar ein bywydau.

“Does dim dewis ond gweithredu i amddiffyn ein swyddi.

“Mae modd osgoi’r amhariad hwn drwy fodloni ein gofynion syml a chyraeddadwy am gontract llawn amser, triniaeth deg, adnoddau digonol a pharch at y gwaith a wnawn.

“Rwy’n fam i dri o blant ac yn byw bywyd syml; bydd y toriadau hyn yn fy rhoi ychydig yn uwch na’r isafswm cyflog ac mae hyn yn anghynaladwy i mi a fy mhlant.

“Gydag ychydig o gyfleoedd yma yng Nghymru i drosglwyddo fy sgiliau, gallai fy ngorfodi allan o’m cartref ac o bosib allan o’r sector.

“Rwyf wedi canu ers yn 12 oed ac wedi bod yn soprano yn y cwmni gwych hwn ers 22 mlynedd.

“Rwyf wedi cymryd rolau helaeth a gan gynnwys gwaith solo ochr yn ochr â fy nyletswyddau corws.

“Yn anffodus, os na fyddwn yn ymladd am ein gofynion, bydd enw da byd-eang corws Opera Cenedlaethol Cymru ac enw da y cwmni yn anadferadwy.”

Ond dydy ei sefyllfa hi ddim yn un unigryw.

Dywed bron i 76% o’r corws y byddai cynigion rheolwyr Opera Cenedlaethol Cymru yn cael effaith sylweddol neu fawr ar eu cyllid personol, yn ôl arolwg Equity ym mis Mai.

Yn y cyfamser, mae 78% yn dweud efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw adael Opera Cenedlaethol Cymru.

Cymaint yw ansicrwydd sefyllfa’r corws, fel bod dros hanner (56%) yn dweud y byddai’n rhaid iddyn nhw adael y diwydiant yn gyfangwbl, tra bod traean arall (32%) yn dweud efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud hynny.

Ym mis Gorffennaf, pleidleisiodd aelodau Undeb y Cerddorion yng ngherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru o blaid streicio posibl dros doriadau tebyg a chynigion gan reolwyr.

“Mae rheolwyr OCC yn parhau i ddyfynnu anawsterau ariannol parhaus gaiff eu hachosi gan doriadau sylweddol i’w cyllid gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor Celfyddydau Cymru,” meddai llefarydd.

“Fodd bynnag, mae Equity a’u haelodau wedi bod yn glir o’r dechrau.

“Ni fyddwn yn derbyn diswyddiadau gorfodol nac awydd rheolwyr Opera Cenedlaethol Cymru i wneud contractau yn ‘hyblyg’ er eu mantais eu hunain yn unig, tra’n ychwanegu ansicrwydd toriad anghynaladwy i enillion sylfaenol aelodau’r corws.”

 

Corws Opera Cenedlaethol Cymru’n pleidleisio ar streicio

Yn sgil pwysau ariannol, mae’r cwmni eisiau gostwng cyflogau gan ryw 15% a lleihau maint y corws