Mae pleidlais yn cael ei chynnal er mwyn i aelodau corws Opera Cenedlaethol Cymru ddweud a ydyn nhw am streicio ai peidio, yn sgil toriadau i’w cyflogau.
Y cynllun yw gostwng eu cyflogau gan o leiaf 15%, a lleihau ac ailgydbwyso maint y corws.
Yn ôl yr undeb Equity, byddai’r broses yn arwain at “fygythiadau gwirioneddol” o ddiswyddiadau gorfodol.
‘Anghynaladwy a thrychinebus’
Fodd bynnag, mae Equity wedi dweud ers misoedd na fyddan nhw’n derbyn diswyddiadau gorfodol, na chwaith fwriad Opera Cenedlaethol Cymru i wneud cytundebau gwaith yn “hyblyg”.
“Mae rheolwr Opera Cenedlaethol Cymru i weld yn benderfynol o wthio’r newidiadau hyn drwodd ar frys dan yr argraff anghywir y bydd hyn, mewn ryw ffordd, yn rhoi’r cyfle i’n haelodau gael y gorau allan o bosibiliadau cyflogaeth eraill,” meddai Simon Curtis, Swyddog Cenedlaethol a Rhanbarthol Equity Cymru a de-orllewin Lloegr.
“Fodd bynnag, mae’r cynigion hyn yn anghynaladwy i’n haelodau, ac mae’n bosib eu bod nhw’n drychinebus i’r sector yn ehangach yn y Deyrnas Unedig.
“Dywedodd bron i 80% o’n haelodau y byddai’n cael effaith fawr neu sylweddol ar eu cyllidebau personol, gyda 78% yn dweud ei bod hi’n bosib y byddai’n rhaid iddyn nhw adael Opera Cenedlaethol Cymru.
“Gymaint yw breuder eu sefyllfa, nes bod dros hanner (56%) yn dweud y byddai’n rhaid iddyn nhw adael y diwydiant yn gyfan gwbl, a thraean arall (32%) yn dweud bod hynny’n bosib hefyd.
“Fel eu hundeb byddan ni’n cadw bob opsiwn ar agor er mwyn ymladd yn erbyn yr ymosodiad ar fywoliaethau ein haelodau.”
Dywed yr undeb fod rhaid i Opera Cenedlaethol Cymru drafod y “cynigion anghyfiawn” eto, a chymryd rhan mewn proses fydd yn gwarchod statws gwaith llawn amser yr aelodau.
Bydd y bleidlais ar streicio ar agor tan Fedi 4.
‘Gorfod cymryd camau pellach’
Dywed llefarydd ar ran Opera Cenedlaethol Cymru fod yn rhaid iddyn nhw wneud newidiadau er mwyn sicrhau bod y cwmni’n dal yn gynaliadwy yn ariannol yn y dyfodol.
“Mae maint y toriadau’n golygu ein bod wedi gorfod cymryd camau pellach er mwyn gwneud arbedion,” meddai llefarydd ar eu rhan pan gafodd y cynigion eu cyhoeddi.
“Yn ogystal â’r newidiadau a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar ynghylch taith 2024/2025, rydym wedi agor ffenestr diswyddo gwirfoddol ar gyfer ein cydweithwyr sy’n cyflawni swyddi nad ydynt yn rhai perfformio, ac rydym mewn trafodaethau gydag undebau ynghylch ail-negodi contractau gyda’n Cerddorfa a’n Corws er mwyn arbed costau.
“Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i gynorthwyo cydweithwyr drwy’r hyn rydym yn gwybod sy’n broses anodd, ond yn anffodus yn un anochel oherwydd ein sefyllfa ariannol a’r arbedion y mae angen i ni eu gwneud.”