Cafodd S4C dros dair gwaith yn fwy o wylwyr yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf nag y maen nhw’n eu cael yn ystod wythnos gyffredin.
Roedd cynulleidfaoedd o bob oed wedi ymateb i’r rhaglenni rhwng Awst 7-13, ac roedd lefel y gwerthfawrogiad i’r holl gynnwys yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd ar ei uchaf ers pum mlynedd ar draws platfformau’r sianel.
Cyrhaeddiad holl raglenni’r Eisteddfod ar deledu eleni oedd 291,000 yng Nghymru – 17% yn uwch nag yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 – a 333,000 ar draws y Deyrnas Unedig.
Roedd holl oriau gwylio S4C yn ystod wythnos yr Eisteddfod dros 2,000,000 – sy’n uwch nag unrhyw wythnos ar S4C ers pymtheg mlynedd, ac roedd yr oriau gwylio ymhlith pobol 16-44 oed hefyd ar eu huchaf ers pymtheg mlynedd.
Ar gyfyngau cymdeithasol S4C – Instagram, Facebook, Tiktok, X, ac YouTube – roedd cynnydd sylweddol mewn sesiynau gwylio ac ymgysylltu o gymharu ag Eisteddfod Genedlaethol 2023.
Cafodd cynnwys S4C o’r Eisteddfod Genedlaethol ei wylio 2.8m o weithiau ar draws y platfformau digidol.
Roedd tri chlip yn enwedig wedi cael cyrhaeddiad arbennig, sef “A oes Heddwch?”, 12345678 Dom a Lloyd, a chlip o Dafydd Iwan yn trafod yr iaith Gymraeg ar benwythnos cyntaf yr Eisteddfod.
Eleni, am y tro cyntaf, bu S4C yn darlledu’n fyw o lwyfan Maes yr Eisteddfod Genedlaethol ar nos Sadwrn olaf yr Ŵyl, yn ogystal â darlledu holl gyffro’r Brifwyl yn Rhondda Cynon Taf drwy gydol yr wythnos.
BBC Cymru a Rondo sy’n cynhyrchu rhaglenni o’r Eisteddfod ar gyfer S4C.
‘Clod am egni a chreadigrwydd’
“Roedd yr Eisteddfod eleni yn brofiad arbennig i unrhyw un fu yno, ac mae’n dda i weld bod ein cynnwys wedi cael ei fwynhau a’i werthfawrogi gan gymaint o bobol,” meddai Sioned Wiliam, Prif Weithredwr dros dro S4C.
“Roedd yr arlwy dyddiol a chynhwysfawr gan BBC Cymru yn llwyddo i ddod â blas o Bontypridd i chi ble bynnag fyddech yn dymuno ei wylio, a’r cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol yn dod â hwyl y maes a’r llwyfannau i gynulleidfaoedd newydd amrywiol.
“Mae’r ffigyrau yma yn glod i’n partneriaid cynhyrchu i gyd am eu hegni a’u creadigrwydd.”