Y DJ Katy Harriz o dref Caerffili fydd yn agor sioe Becky Hill ym Mae Caerdydd nos Sadwrn (Awst 24).
Dosbarthu llyfrau llyfrgell yw ei gwaith bob dydd, ond mae hi’n breuddwydio am gael bod yn droellwr disgiau llawn amser.
The Bay Series yw’r gyngerdd awyr agored fwyaf yng Nghymru, a bydd amrywiaeth o gerddoriaeth a bwydydd ar gael yno.
Mae’r safle awyr agored pwrpasol eisoes wedi croesawu nifer o fawrion, gan gynnwys Lewis Capaldi, Pendulum a Biffy Clyro.
Eleni, mae’r ŵyl yn croesawu Becky Hill, Mcfly, New Order a Tiësto.
Cafodd Katy Harris, neu ‘DJ Katy Harriz’, gynnig i agor cyngerdd Becky Hill ac mae’n dweud y bydd yn “gam enfawr” yn ei gyrfa, ond yn un mae hi’n teimlo’n “barod amdano”, meddai.
Pwy yw Katy Harris?
Mae gan Katy Harris gyflwr ADHD, ac o ganlyniad mae hi’n hoffi cadw’n brysur a’i hymennydd yn weithgar.
Cafodd ei magu yng Nghaerffili, ac mae hi’n parhau i fyw yn y dref hyd heddiw.
Yn 14 oed, cafodd ei hysbrydoli gan Annie Mac ar BBC Radio 1, a dyna gychwyn ei hangerdd i fod yn droellwr disgiau.
Prynodd ei rhieni offer DJ iddi ar gyfer ei phen-blwydd, a dechreuodd hi chwarae i’w ffrindiau mewn partïon ac mewn digwyddiadau elusennol lleol.
Erbyn iddi droi’n 17 oed, roedd hi’n chwarae yn y ‘Boutique Disco’ a digwyddiadau FS Events, sy’n enw adnabyddus ym myd priodasau a lletygarwch.
“Yn lleol, dechreuodd fy enw ddod yn gyfarwydd ac roedd pobl yn bwcio fi’n fwy rheolaidd ar gyfer y math o gerddoriaeth roeddwn i eisiau ei chwarae, sef cerddoriaeth ddawns,” meddai wrth golwg360.
Ar ôl hynny, fe wnaeth ‘Fixate house & techno’ ddechrau cynnwys DJ Katy Harriz mewn llawer o’u digwyddiadau, a thyfodd ei gyrfa fel DJ.
Yn ystod cyfnod Covid-19, ymunodd hi ag academi DJ gyda ‘Escape Records’, oedd yn gam mawr yn ei gyrfa.
“Gwelodd Mark Hopkins, sy’n bennaeth gwyliau yno, botensial ynof fi ac wedi credu ynof fi o’r diwrnod cyntaf ers agor drws yr academi i mi,” meddai.
“Dw i wedi bod yn ddigon lwcus i gael gigs mawr fel In It Together Festival, Colour Clash ac Escape in the park, i enwi rhai.”
Y gig mwyaf eto
14 mlynedd ar ôl cychwyn, mae’r troellwr nawr yn agor i Becky Hill.
Dywed ei bod hi’n teimlo’n “gyffrous, ac yn nerfus, ond yn gyffrous yn bennaf”.
“Rwy’n gwybod fy mod i’n haeddu’r foment hon,” meddai wedyn.
“Rydw i wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd, ac wedi breuddwydio am foment fel hyn.
“Rwy’n falch bod gen i rai nerfau, oherwydd mae’n dangos fy mod i’n poeni cymaint am gymryd fy moment a gwneud yn dda.”
Roedd Hannah Wants yn ysbrydoliaeth arall i Katy Harris, a chafodd ei henw fel tatŵ ar ei throed.
Mae Hannah Wants hefyd yn perfformio yn y gyngerdd, sydd yn arwyddocaol iawn i Katy Harris.
“Rwy’ wrth fy modd yn dod â phobol at ei gilydd ar y llawr dawnsio, chwarae caneuon nad yw pobol erioed wedi’u clywed, ond eu cymysgu â chaneuon adnabyddus mae pobol wrth eu boddau â nhw.
“Mae’n ymwneud â chreu a gosod bywiogrwydd.
“Rwy’n dal i weithio’n llawn amser ond, wrth gwrs, y freuddwyd fyddai bod yn droellwr llawn amser – er cymaint dw i wrth fy modd yn fy swydd yn darparu llyfrau llyfrgell.”
Mae Katy Harris yn gobeithio y bydd mwy o setiau “mawr” yn dilyn y gig yma iddi, ond mae hi’n ddiolchgar am unrhyw gyfleoedd sy’n dod ar hyn o bryd.
Breuddwyd fwyaf DJ Harriz yw cael chwarae yng ngŵyl Creamfields.
Mae hi wedi bod yno sawl gwaith yn y dorf, ond bydd hi wrth ei bodd cael chwarae yno ryw ddiwrnod, meddai.