Mae Alan Llwyd wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg ei fod e wedi cael “siom” wrth ddod yn ail ar gyfer y Gadair yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf eleni.
Dywed fod y siom yn deillio o’r ffaith fod ei awdl “heb gael ei chadeirio ar ôl y fath feirniadaeth”.
Alan Llwyd yw’r bardd y tu ôl i’r ffugenw Dolennwr, ddaeth yn ail agos iawn.
I Carwyn Eckley, bardd o Benygroes oedd â’r ffugenw Brynmair, aeth y Gadair, a hynny am gasgliad o gerddi ar y testun ‘Cadwyn’ yn trafod dygymod â galar ar ôl marwolaeth ei dad.
Alan Llwyd oedd bardd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, y cyntaf ers llacio’r rheol ‘dwywaith yn unig’ i ennill y Gadair am y trydydd tro. Mae wedi ennill y ‘dwbl’, y Gadair a’r Goron yr un flwyddyn, ddwywaith, yn 1973 ac 1976.
“Doeddwn i ddim o ddifri wedi bwriadu cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, ond cefais weledigaeth ar y testun, a doedd dim troi’n ôl i fod wedyn,” meddai Alan Llwyd wrth Golwg.
“Roeddwn wedi ennill Cadair Arian Caerwys y llynedd, mewn cystadleuaeth arbennig a drefnwyd gan Gymdeithas Barddas i ddathlu pumcanmlwyddiant Eisteddfod Caerwys, 1523, eisteddfod hynod o bwysig yn y traddodiad.
“Thema fy awdl fuddugol, ‘Etifeddiaeth’, oedd goroesiad y Gymraeg, ac fel yr oedd grym ac egni mewnol yr iaith wedi goresgyn y pwerau allanol a oedd yn ceisio’i difa.”
Y feirniadaeth
Roedd un o’r tri beirniad, Huw Meirion Edwards, o blaid cadeirio ‘awdl orchestol’ Dolennwr yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Dyma’r bardd, meddai, “sy’n meddu ar yr adnoddau ieithyddol a chynganeddol cyfoethocaf, a chanddo ef hefyd… y cafwyd y dehongliad mwya’ soffistigedig o’r testun”.
“Mae yna linellau unigol o gynghanedd ‘sy’n mynd â gwynt rhywun,” meddai.
Serch hynny, cytunodd Huw Meirion Edwards â’i ddau gyd-feirniaid, Aneirin Karadog a Dylan Foster Evans, fod Brynmair yn ‘llwyr deilyngu’ y Gadair.
Mae beirniadaeth Aneirin Karadog ar awdl Alan Llwyd yn rhedeg dros bedair tudalen a hanner o’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.
Dywed fod caniadau Dolennwr “yn sefyll ochr yn ochr â gwaith Gerallt [Lloyd Owen]”, a bod eisiau eu rhoi ar faes llafur ysgolion.
Roedd wedi “colli cwsg” wrth bendilio rhwng gwaith Brynmair a Dolennwr, meddai, ond mae hynny wedi gadael “blas drwg” i Alan Llwyd.
Rhagor yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.