Am y tro cyntaf erioed, mae dros 80 o aelodau’r Urdd wedi mentro i Ŵyl Ryng-Geltaidd Lorient (Awst 12-18).

Dyma un o wyliau mwya’r byd Celtaidd, ac mae’n denu tua 950,000 o ymwelwyr a gwylwyr bob blwyddyn.

Nod yr ŵyl yw cadw’r traddodiadau a’r cyfeillgarwch rhwng y gwledydd Celtaidd yn fyw, a dathlu hynny drwy gerddoriaeth a dawns.

Mae’r ŵyl werin fel arfer yn cyd-daro â’r Eisteddfod Genedlaethol, ond oherwydd bod y Gemau Olympaidd wedi’u cynnal yn Ffrainc eleni, penderfynodd y trefnwyr symud yr ŵyl i’r wythnos ganlynol.

Fe fu gan Gymru draddodiad hir o berfformio yn Lorient, gan ddenu perfformwyr yno’n flynyddol, a doedd eleni ddim gwahanol.

Thema’r ŵyl eleni oedd ‘ieuenctid’ ac, fel rhan o’r thema honno, teithiodd llysgenhadon o’r Urdd i Lydaw er mwyn arddangos Cymru, y Gymraeg a’i diwylliant ar ei orau.

Cafodd y daith ei hariannu gan raglen Taith Llywodraeth Cymru, sef rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu gafodd ei lansio yn 2022 yn lle Erasmus+.

Prosiectau

Roedd gwahanol brosiectau wedi mynd allan yno i gynrychioli Cymru, ac yn eu plith roedd:

  • Twmpdaith sef menter sy’n hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymru ymhlith cynulleidfaoedd iau.
  • Prosiect Plethu sef cydweithrediad rhwng Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd â Chlocswyr Conwy ac maent yn cyfuno gwahanol fathau o ddawnsio o’r traddodiadol Cymru i ddawnsio Bollywood a dawnsio Roma.
  • Aelwyd yr Ynys o Ynys Môn, gafodd eu dewis fel y côr i gynrychioli’r Urdd yn Llydaw yn dilyn proses ymgeisio agored i gorau ledled Cymru.

Hefyd, roedd Luned Hunter o’r Urdd yn cymryd rhan mewn sesiwn gan y Fforwm Ieuenctid Rhyng-geltaidd ar ‘Ymarfer Iaith Geltaidd’, ochr yn ochr ag Alan Kersaudy o Lydaw.

Bwriad y Fforwm Ieuenctid Rhyng-geltaidd yw hyrwyddo deialog ryngddiwylliannol rhwng y gwledydd Celtaidd.

“Wythnos fythgofiadwy”

Wrth siarad â golwg360, dywed Ann Postle, un o hyfforddwyr Aelwyd yr Ynys ar y cyd â Nia Efans, ei bod hi wedi bod yn “wythnos fythgofiadwy, a bod y profiadau mae’r bobol ifanc yma wedi’u cael yn anhygoel”.

Yn dilyn proses ymgeisio agored i gorau, cafodd Aelwyd yr Ynys wybod ddechrau’r flwyddyn eu bod nhw wedi bod yn llwyddiannus.

Mae’r Aelwyd yn dathlu ugain mlynedd eleni, ac roedd yn ddathliad arbennig cael cynrychioli Cymru a’r Urdd yn yr ŵyl, meddai.

Roedd yn rhaid i’w repertoire fod yn eang ac amrywiol, ac roedden nhw wedi cynnwys 14 cân, gyda chyfuniadau o’r traddodiadol i’r modern.

Cafodd y plant gyfle i ganu yn Stade du Moustoir bob nos, gan gynrychioli Cymru a “chael rhannu llwyfannau efo pobol o wahanol wledydd y byd”, meddai.

Aelwyd yr Ynys yn canu ar lwyfan yn y Stade du Moustoir

Yn ôl Ann Postle, dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl gael côr cymysg a chael clywed merched a bechgyn yn canu, gan mai corau un llais yn unig sydd fel arfer wedi cael canu.

“Mi fysen ni, fel criw, wrth ein boddau yn cael y cyfle i ddychwelyd ’nôl i’r ŵyl, a dw i’n meddwl ei fod yn hollbwysig bod y Cymry yma hefyd,” meddai.

Criw Aelwyd yr Ynys