Mae’r gwaith cynhyrchu wedi dechrau yn y gogledd ar ffilm sy’n ailddychmygu hanes un o gymeriadau mwyaf lliwgar Oes Fictoria.
Hanes Henry Cyril Paget, pumed Marcwis Môn, yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer Madfabulous, sy’n cael ei ffilmio ar Ynys Môn ac o amgylch Caernarfon a Phwllheli.
Mae’r sêr sy’n ymddangos yn y ffilm yn cynnwys Rupert Everett, Callum Scott Howells (It’s a Sin), Ruby Stokes (Bridgerton), Siobhán McSweeney (Derry Girls), Paul Rhys (Saltburn), Louise Brealy (Sherlock), Louis Hynes (A Series of Unfortunate Events ar Netflix) a Tom Rhys-Harries (White Lines).
Callum Scott Howells sy’n chwarae rhan y Marcwis.
Lisa Baker a Celyn Jones, dau sy’n dod o Ynys Môn, sy’n gyfrifol am ysgrifennu a chyfarwyddo’r ffilm.
Dechreuodd y ffilmio’r wythnos ddiwethaf, ac mae swyddfa gynhyrchu wedi’i gosod yn ardal Parc Glynllifon, Llandwrog.
Hanes y Marcwis
Plas Newydd ger Llanfairpwll ar Ynys Môn oedd cartref y Marcwis ac, er ei fod wedi etifeddu ffortiwn, bu farw’n dlotyn yn 29 oed yn 1905, a bu’n rhaid gwerthu tua 18,000 o’i eitemau er mwyn ceisio clirio’r ddyled.
Roedd Henry Cyril Paget yn hoff iawn o ddillad, gwisgoedd rhwysgfawr a gemwaith, ynghyd â dawnsio a llwyfannu perfformiadau – gan gynnwys rhai am ddim i bobol leol, yn ôl ymchwil gan yr hanesydd Viv Gardner y llynedd.
Ond aeth yn fethdalwr ac yn ystod Gwerthiannau Mawr 1904, cafodd popeth ei werthu – o’i gemau drytaf hyd at y brwshys a’r bwcedi glanhau ym Mhlas Newydd.
Roedd ganddo werth tua £45m o ddyledion yn ein harian ni heddiw, a hyd yn oed ar ôl gwerthu popeth roedd dal mewn dyled gwerth £12m pan fu farw.
Er nad yw hi’n glir faint o Gymraeg oedd gan y Marcwis, fe wnaeth ddechrau dysgu’r iaith o oed ifanc, medd Viv Gardner, gan ddweud ei bod yn meddwl bod hynny’n rhan o’i waith ymgysylltu â’r gymuned leol.
Bu’n cynnal gemau pêl-droed, yn cyflwyno gwobrau beicio, a hyd yn oed yn cadw stondin yn gwerthu lluniau ohono fo ei hun yn Ffair Ysgol Friars ym Mangor.
Ar ben hynny, cafodd radd farddol er anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902, a’i dderbyn i’r Orsedd gyda’r enw barddol ‘Cadrawd Hardd’.
Roedd gan dad y Pumed Marcwis berthynas fwy traddodiadol â phobol Môn.
Er y byddai’r bonheddwr yn mynd allan i’r gymuned, roedd gan ei fab berthynas ychydig yn llai ffurfiol â’r bobol gyffredin.
Bob blwyddyn, byddai’n cynnal parti pen-blwydd gwisg ffansi, gan wahodd trigolion yr ardal a’i weithwyr i fwynhau ysblander Plas Newydd.