Fe etifeddodd Henry Cyril Paget ffortiwn, ond nid dyn busnes mohono. Roedd yn well ganddo wario a dawnsio a rhoi sioeau mawreddog ymlaen, a bu farw mewn dyled enbyd…

Pan aeth Pumed Marcwis Môn i drafferthion ariannol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif ar ôl blynyddoedd o wario, cafodd tua 18,000 o eitemau eu gwerthu er mwyn trio clirio clamp o ddyled.