Mae’r band o Gaerdydd yn ôl gyda sengl sionc oddi ar eu halbwm newydd…

Yn dilyn cyfres o EPs a senglau dros y blynyddoedd diwethaf, mae Hyll yn dychwelyd gyda sengl newydd ac ar fin rhannu eu casgliad cyntaf o ganeuon.

Proses ychydig yn wahanol i’r arfer oedd yn sail i sgrifennu’r sengl ‘Hanner Marathon’, meddai Iwan, prif leisydd y band. Ond mae’r gân yn nodweddiadol o sain y band erbyn hyn, gyda’r naws roc-slacyr a llais unigryw Iwan.