Mae dathliad cerddorol a gafodd ei gynnal yn Aberystwyth er cof am ddyn busnes a cherddor jazz poblogaidd o’r dref wedi bod yn “llwyddiant ysgubol”.

Wedi’r cyngerdd a gafodd ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau ar 10 Mehefin er cof am John Davies, perchennog siop gemwaith T J Davies & Son, mae £10,000 wedi ei godi ar gyfer cronfa i hybu cerddorion ifanc.

Bu’r siop gemwaith, a gafodd ei sefydlu gan ei dad Titus Davies, ar Rodfa’r Gogledd am 75 mlynedd.