Arferai Sian Lester weithio yn Nenmarc a Llundain yn creu patrymau i gwmnïau mawr fel John Lewis, ond hel rhedyn ac eithin mae hi erbyn hyn…
Mae’r artist Sian Lester o Sir Benfro yn gwneud gwaith celf sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y tir wrth ei thraed, ar ôl troi ei chefn ar yrfa fasnachol ryngwladol.
Fe fydd yr artist o Arberth yn defnyddio planhigion i liwio defnyddiau yn ei gwaith tecstil – rhai mae hi’n dod o hyd iddyn nhw yn ei milltir sgwâr.