Mae bardd o Ynys Môn yn disgrifio teithio Cymru a thu hwnt yn holi’r hwn a’r llall ar raglenni Prynhawn Da a Heno fel bod “mewn bendith o swydd”.

Cipiodd cyfrol gyntaf Caryl Bryn wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori barddoniaeth yn 2020.

Ers hynny mae hi wedi bod wrthi’n sgrifennu comedi i Hansh, sgriptio teledu, a nawr yn gweithio fel gohebydd dan hyfforddiant.