A dyna ni, felly! Ar ôl yr holl baratoi, rhagdybiaethau, a phryder trefnwyr yr Eisteddfod, efallai, cafwyd prifwyl werth chweil ym Mhontypridd – yn un o’r lleoliadau mwyaf delfrydol fyddai wedi gallu bod.

Ond mi fu’n Steddfod lle teimlais fod ‘dyletswyddau’ a disgwyliadau newydd arnaf, wedi’u cyfleu drosodd a throsodd drwy erthyglau niferus a thrwy drafodaethau yn y cnawd ac ar Facebook.

Ac yn yr aftermath, gwelaf fod yna bobol o hyd sy’n mynegi siom ac yn gofyn a oedd hi’n werth yr holl baratoi a threfnu. A dyma fi’n ffeindio’n hun yn teimlo braidd yn anesmwyth yn sgil hyn oll, gan synfyfyrio ar ba beth yw Steddfod, a faint fedrwn ei ddisgwyl ganddi mewn gwirionedd.

Busnesau lleol a chyfagos yn elwa?

Un o’r pwyntiau sydd wedi codi yw fod y gymuned leol yn y sir, ac nid dim ond ym Mhontypridd, wedi gweithio’n andros o galed i codi swm sylweddol o bres fel rhan o’r paratoadau at yr Eisteddfod. Ac mi wnaeth hyn godi gobeithion y byddai busnesau lleol a chyfagos yn gweld buddion trwy gael mwy o gwsmeriaid yn y siopau a bwytai; hynny ydy, buddion ariannol.

Mae’n bwynt pwysig, oherwydd mae’r weithred o godi arian at gynnal y Brifwyl yn heriol iawn, yn enwedig yn ystod y creisis costau byw, pan fo cymaint o achosion eraill hefyd sydd angen ein sylw, ein hymroddiad, a’n rhoddion.

Ond a yw hi’n realistig disgwyl i’r Brifwyl ddod â gwerth wythnos o elw mawr i fusnesau lleol, ac yn enwedig i’r ardaloedd sydd ddim o amgylch y Maes – megis canol dre’ Pontypridd?

Roedd y bwytai a’r siopau yn y dref wedi’u lleoli’n gwbl ddelfrydol y tro hwn, i Steddfotwyr gael piciad am fwyd ar y ffordd o’r maes carafannau a phebyll, neu ar eu ffordd o’r orsaf drenau. Ac roedd y tafarndai yn ddigon agos i ni gyd gael mynd ene am glasiad neu dri hefo hen ffrindiau coleg rydan ni’n eu gweld unwaith y flwyddyn. Braf iawn oedd hynny!

Ond mae’n dibynnu ar eich amserlen Eisteddfodol, on’d ydi? Dw i’n siŵr, i’r sawl sydd yn perfformio sawl gwaith yn ystod yr Eisteddfod, mai eu bwriad tu hwnt i nene yw dianc oddi ar y maes am ’chydig oriau i ymlacio mewn caffi, a dal i deimlo’n rhan o’r ŵyl.

Ond i lawer iawn o Steddfotwyr, ein rôl ni yw bod yn gynulleidfa i’r perfformwyr a dyma’n wir lle rydym yn ennyn ymdeimlad o gysylltiad â’r ŵyl. Felly, mae’n hamserlen ni’n un sy’n golygu eistedd yn y Tŷ Gwerin, piciad i stondin am fwyd, cyn rhuthro draw i’r Babell Lên neu i Lwyfan y Maes. Ac i ni sydd â iechyd bregus a chymhleth, rydan ni jyst angen bwyd sydd yn saff ac yn llenwi’r bwlch, heb orfod cerdded draw i’r dre’ i wario pres.

Dwi’n ffeindio’n hun yn ystyried lle fyddai’r perfformwyr oll tasa’r cynulleidfa i gyd yn dilyn y gorchymyn i dreulio’r wythnos yn y caffis a’r tafarnau?

Corn gwlad a hufen iâ

Wrth i’r haul fachlud ar y dydd Iau, roeddwn i a fy ffrind ar fin gadael y maes, a finnau yn meddwl mynd allan i’r dafarn eto fel y noson gynt, pan ddigwyddon ni daro mewn i ffrind newydd o’n i wedi cwrdd â hi’r wythnos honno – a hithau’n edrych ymlaen at fynd i weld Corn Gwlad.

Rhaid cyfaddef nad wyf wedi bod yn talu digon o sylw i fyd theatr yn ddiweddar, gan feddwl ‘dydi o ddim i bobol fel fi’. Ond ces fy swyno gan frwdfrydedd fy ffrind, felly mi es i’r Babell Lên i’w gwylio – ac roedd y lle yn llawn dop o bechaduriaid ddylai fod wedi bod yn gwario pres yn y pyb. Ond, yn hytrach, dyma le’r oedden nhw, yn gwbl ddigywilydd, yn gwylio sioe gerdd… a hynny heb wario dim un ceiniog yn fwy na’u tocyn Steddfod! Sarhaus! Ond, ew! Am wledd o hanes a hiwmor a delweddau arbennig!

A’r bore trannoeth, a finnau wedi pacio fy mhabell ac yn barod i yrru’n ôl ar hyd y ffin i Gilgwri, mentrais unwaith eto i’r maes. Wrth giwio am hufen iâ, gwelais fy ffrind o’r noson gynt, ac aethom draw i’r byrddau bwyd i ymlacio yn yr haul wrth eu bwyta.

Roedd cryn drafod ar Corn Gwlad yma, gyda phobol newydd yn ymuno â’r sgwrs, a theimlais am y tro cyntaf ers mynychu’r Steddfod hon y teimlad hwnnw roeddwn wedi bod yn chwilio amdano – teimlo fel Steddfotwr, ac fy mod – rywsut – yn rhan o rywbeth arbennig trwy gyfrwng y Gymraeg.

Buddion llai gwrthrychol, ond pwysig

Ac wrth i mi synfyfyrio ar ba mor hwylus oedd hyn oll, a faint oeddwn yn ei fwynhau, mi wnaeth fy ffrind fy nghyflwyno i’w nithoedd. A hwythau yn eu harddegau, esboniodd yn syml taw dyma oedd y tro cyntaf iddyn nhw gael y cyfle i ddŵad i faes y Brifwyl – hynny ydi, yn gyffredinol ac nid dim ond yr un yma ym Mhontypridd. Roedd y Brifwyl y tro yma yn ddigon agos iddyn nhw gael dŵad am y diwrnod, a gweld pa fath o beth oedd o.

A dyma deimlad cynnes a chysurus yn fy lapio, wrth i mi ‘sidro taw dyma’r math o fuddion fedrwn eu disgwyl o’r Brifwyl, mewn gwirionedd. A dyma’r buddion ddylai fod yn ein pennau a’n calonnau wrth godi’r arian yn lleol i gynnal y Brifwyl yn lleol.

A dyma fi hefyd yn teimlo’n llai euog am fod ar y maes, yn hytrach nag eistedd mewn caffi, achos mi rydw i, jyst trwy fod ar y maes gyda fy holl brofiadau unigryw, yn cyfrannu at y profiadau gaiff pobol sy’n ymweld â’r maes – boed am y tro cyntaf neu’n Steddfotwyr profiadol.

Mae cymaint yma ar y maes yn ystod y Brifwyl, gydag ymdrechion taer i gyflwyno adloniant at bob dant, i ymateb i bob digwyddiad yn y byd, ac i fod mor hygyrch a chynhwysol ag sy’n bosib. Ac efallai, felly, y dylai hyn fod yn ddigon i ni ei ddisgwyl, ynde?