Dramodydd a beirniad yw Paul Griffiths, sydd wedi gweithio yn y diwydiant theatr a theledu ers dros 30 mlynedd. Enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd dair gwaith yn olynol, rhwng 1995 a 1997. Daeth hefyd yn ail am Fedal Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol ym Môn yn 1999. Mae’n gyn-feirniad yn y Genedlaethol a’r Urdd, yn gyn-adolygydd theatr i’r Cymro, ac wedi gweld dros 1,200 o gynyrchiadau theatr hyd yma. Mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain ers dros dwy flynedd ar bymtheg.

Yma, mae’n galw ar enillydd y Fedal Ddrama yn Rhondda Cynon Taf eleni i ddod ymlaen…


All neb wadu nad yw’r Eisteddfod Genedlaethol wedi creu llanast enfawr eleni. Fel Eisteddfod Pont-y-pŵl ym 1924, bydd Eisteddfod Pontypridd yn cael ei gofio am y sgandal mawr o ‘atal’ a ’diarddel’ Seremoni’r Fedal Ddrama yn 2024. Wedi agor y nyth cacwn, bydd y pigiadau a’r brathu yn parhau am flynyddoedd i ddod.

Petai’r ‘Bwrdd’ neu’r ‘Llys’ neu’r ‘Cyngor’ neu’r ‘Prif Weithredwr’ wedi oedi am ennyd, a meddwl o ddifri am oblygiadau pellgyrhaeddol y penderfyniad, yna falla fydda’r llanast wedi’i ‘reoli’ yn llawer gwell. Roedd aros tan union funud y Seremoni cyn canslo, yn anfaddeuol. Nid yn unig i Nia Roberts a ninnau fel cynulleidfa S4C, ond i’r cannoedd oedd wedi ymgasglu yn y Pafiliwn, (gan gynnwys y rhai oedd wedi talu £23), i weld y Seremoni. Nia druan yn annog y gwylwyr i “ddod yn ôl ar ôl yr egwyl am Brif Seremoni’r dydd”, ac yna’n gorfod llenwi’r AWR wag a ddilynodd. Oes gronyn o synnwyr cyffredin yn perthyn i benaethiaid yr Eisteddfod?!

Nid amser oedd y gelyn, yn amlwg, gan fod enillwyr y prif gystadlaethau yn gwybod ers tua ’saith wythnos’, ac yn sicr cyn i’r Cyfansoddiadau fod wedi cyrraedd y Wasg. Os gwir yw awgrym Cefin Roberts bore ddoe, ar raglen Dros Frecwast, mai ‘actor’ oedd wedi codi’r helynt, (wrth ffilmio dehongliad ffilm ar gyfer y Seremoni), yna mae’r nyth yn cael ei chwalu’n deilchion.

Mae hyd yn oed ddatganiad pellach y ‘beirniaid’ a’r ‘Bwrdd’ yn codi mwy o gwestiynau nag atebion:

“Fe ddaethon ni fel beirniaid i’r broses o ddarllen a dewis y ddrama fuddugol eleni yn hollol ddall. Dewiswyd drama roedden ni i gyd yn gytûn oedd yn llais cyffrous ac yn safbwynt ffresh a newydd i theatr yng Nghymru.”

Haleliwia! O’r diwedd! Drama oedd yn amlwg yn llwyr deilyngu’r Fedal. Wedi’i dewis ‘yn ddall’ o dan ffugenw, fel sy’n rhan allweddol a theg, o lwyddiant yr Eisteddfod. Gwaith llenyddol gwreiddiol, wedi’i greu unai o brofiad y dramodydd, neu o’u dychymyg a’u dawn. Dychymyg, dawn neu brofiad oedd yn ddigon angerddol i argyhoeddi tri o feirniaid Cenedlaethol. O fod wedi darllen beirniadaeth gampus Wyn Bowen Harries am ei ddrama aflwyddiannus DNA, mae’n rhaid bod gwaith y buddugol o safon uchel iawn, iawn.

Ac wedyn y frawddeg niwlog a chwbl wrthgyferbyniol nesa’:

“Roedden ni’n disgwyl i bob awdur fod wedi gwneud eu gwaith ymchwil yn drwyadl. Mae hyn yn hollbwysig i ddilysrwydd ac uniondeb y dramâu.”

Beth am ‘waith ymchwil… trwyadl’ y beirniaid, ’ta? Faint o wirio cynnwys a’r profiad sydd yn y ddrama a wnaed? Hawdd ac annheg iawn yw beio’r dramodydd, wedi chwalu’r nyth. Onid dyna yw holl bwrpas cystadlu? I gael beirniadaeth, i ddysgu gan arbenigwyr sydd i fod i wybod yn well? Fyddech chi fyth yn dewis Awdl neu Gywydd i ennill, am fod y gynghanedd yn gywir ond y deud yn sâl, neu fel arall.

Ond hyn sy’ wedi ‘nghorddi i fwya’!:

“Nid sensora oedd eu bwriad ond gwarchod pawb a oedd ynghlwm â’r gystadleuaeth a’r gymuned roedd y dramodydd yn honni ei chynrychioli.”

‘Gwarchod’ pwy, mewn gwirionedd? Yr unig rai sy’n cael eu ‘gwarchod’ yw’r Eisteddfod a’r Bwrdd a’u camgymeriad anfaddeuol. Cofiwch mai ‘gwarchod’ oedd y ferf anghyflawn ddefnyddiodd y BBC yn achos Huw Edwards, ar ôl iddo yntau gyfadda’.

O dderbyn y trywydd yma, rydan ni’n cyhuddo a chondemnio’r dramodydd buddugol o gyflawni rhyw drosedd lenyddol. Trosedd oedd ddigon seriws, nid yn unig i’w gwahardd o’r gystadleuaeth, ond i ganslo’r Seremoni a’r Gystadleuaeth yn gyfan gwbl. Unig drosedd y dramodydd oedd defnyddio eu dawn a’u dychymyg i gyfansoddi drama dda. Drama oedd yn amlwg wedi swyno’r beirniaid. Pa fath o ‘warchod’ ydi hynny?

Ac o ran “…y gymuned roedd y dramodydd yn honni ei chynrychioli“, mae’r cliw yn nheitl y gystadleuaeth. ‘Cyfansoddi Drama’; gwaith llenyddol; defnyddio dychymyg a/neu brofiad personol. Dehongliad y dramodydd gafodd ei ddewis, nid adroddiad neu erthygl ffeithiol. Weithia’, fel dramodydd, ’dwinna’n anghytuno efo dehongliad Aled Jones Williams o salwch meddwl; dwi’n anghytuno efo portread Daf James neu Roger Owen o fod yn berson hoyw yng Nghymru. Tydi hynny ddim yn datgan fy mod i, na nhw, yn gywir neu’n anghywir. Ffrwyth profiad unigol a phersonol ydio. Yn yr un modd ag mae miloedd o bobol yn anghytuno / cytuno efo’r Rhyfel ym Mhalesteina, neu’r Wcráin. Tydi profiad un person, neu ddeg o’r un lliw, crefydd neu gefndir ddim yn ffeithiol gywir. Dowch i fyw i Dde Orllewin Llundain am dros bymtheg mlynedd, a gewch chi weld a chlywed yr amrywiaeth barn!

Felly, dwi’n galw’n daer, o waelod fy nghalon, am i’r dramodydd dawnus gamu ymlaen yn ddewr i dderbyn eu clod. I ddatblygu eu dawn. I ddysgu ac i weithio mwy efo’r ‘gymuned’ dan sylw, yn hytrach na chael eu cuddio gan yr Eisteddfod, er mwyn arbed eu henw nhw’n unig, rhag y llanast a’r siambyls sy’ wedi’i greu.

Tasa yna un gronyn o synnwyr cyffredin wedi’i weithredu, yn lle cuddio’n ddirgel am wythnosau cyn yr Eisteddfod, yna byddai’r cwbl o’r helynt wedi’i arbed. Mae’r ateb yn syml i bawb call; os oedd problem gyda’r buddugol yng ngolwg naïf yr Eisteddfod, yna eu diarddel yn dawel, gwobrwyo’r ail, cynnal y Seremoni a dathlu Pontypridd 2024 am y rhesymau cywir, heb orfod ‘gwarchod’ neb.