Ewch â fi’n ôl i wythnos gyntaf Awst!
Mae’r trên o ogledd Caerdydd i Bontypridd yn Ewropeaidd o newydd a thipyn Chymreiciach na’r arfer, a’r tanoi hyd yn oed yn medru’r iaith. Ar ôl camu ar blatfform Ponty, mae byddin o swyddogion diogelwch clên yn ein hebrwng at arwyddion ‘Croeso’ mawr, a staff Trafnidiaeth Cymru yn rhannu sticeri a choronau aur i’r rhai bach. Croesi’r ffordd ddeuol brysur i Stryd Taf wedyn, lle mae’r Gymraeg yn fwyafrif unwaith eto yn nhre’r Anthem. Dwi yno i wirfoddoli ar y diwrnod cyntaf, gan fod hon yn steddfod stepen drws, er nad yn fy sir i. Ond mae rhywun yn teimlo’r awydd i wneud mwy na dim ond meddwi ar y Pethe a chwrw seithbunt. I ganolfan gelfyddydau’r Miwni â mi, lle mae prif stiward byrlymus o Langollen yn dangos be’ ’di be’. Rwy’n tsiecio’r tocynnau, yn cyfeirio aelodau coll rhyw gôr meibion at eglwys arall, a wynebu rhiant pigog oherwydd newid yn amserlen y prî-lims. Daw stiwardiaid eraill o Dreherbert a Phorthcawl, siaradwyr newydd bob un, i weithio ac ymarfer eu Cymraeg rhywiog. Mae popeth yn dda.
Drannoeth, dwi’n hapus i fachu shifft yn y Pafiliwn, lle mae 14 ‘Côr newydd i’r Eisteddfod’ wrthi. Y dasg ydi sefyll ar dop y grisiau cefn a thywys pobol i’w seddi-â-hisht!, ac arwain eraill i wneud tro pedol a mynd allan trwy’r drysau gwaelod – gan gynnwys cyflwynydd Radio Cymru sy’n rholio’i lygaid! Mae ambell gân yn cyffwrdd rhywun, a’r awyrgylch yn drydanol yn y popty gwyn. Gwelaf lawer yn ffilmio gyda’u ffonau clyfar, nythaid o neiniau di-Gymraeg a rhieni Sikhaidd balch ar eu traed yn cymeradwyo.
Draw yn Lloegr, mae hilgwn gwyn boliog yn cadw reiat hiliol ar y strydoedd.
Ar ddiwedd y shifft, caf sgwrs â chyd-stiward lleol a deall cymaint mae’n ei olygu i nifer. Merch ifanc o Bonty aeth drwy’r system addysg Gymraeg, ond prin wedi siarad yr iaith ers gadael yr ysgol ddeng mlynedd yn ôl. Bellach yn gyfieithydd Ffrangeg a Sbaeneg, mae’n dweud bod gwirfoddoli ar Faes Ynysangharad yn gyfle i ailafael yn iaith y dosbarth. Pan welais hi eto yn ei siaced hi-vis werdd ar y dydd Gwener, roedd hi’n siarad Cymraeg fel pwll y môr. Dyna chi waddol!
Mae’r deuddydd olaf yn mynd fel mellten wrth geisio fy ngorau glas i ddilyn ‘Fy amserlen’ ar ap yr Eisteddfod a gweld ffrindiau bore oes am lymaid. Dwi’n mwynhau heddwch y Babell Lên i wrando ar deyrngedau i’r llenor ac ymgyrchydd Gareth Miles, Andrew ‘Hywel Llywelyn’ Teilo yn trafod ei straeon byrion caboledig, ac atgofion byw Siân Phillips naw deg mlwydd oed – ie, Siân Phillips! – yn nhafodiaith hyfryd Gwauncaegurwen. Ac wrth fochel rhag y glaw ar y bore Sadwrn olaf, mae darlith Dafydd Morse am feirdd a chantorion brith bro’r Eisteddfod o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen yn ‘Hanes Clic y Bont’, yn berl annisgwyl.
Dwi’n ‘deall’ mwy o’r Lle Celf eleni, ac yn mwynhau darlith ardderchog am Josef Herman (1911-2000), arlunydd o Wlad Pwyl fu’n portreadu pobol Ystradgynlais. Ac mae pwy bynnag benderfynodd leoli’r mân bebyll cerddoriaeth fyw mewn cornel dawelach o’r parc yn athrylith. Yno y clywais setiau agos-atoch, o hwyl heintus ‘Avanc’, aelodau o ensemble gwerin ieuenctid Cymru, i bop perffaith ‘Ynys’ o Aberystwyth.
Y tu hwnt i swigen y parc, mae’n braf gweld eisteddfodwyr yn gwario yn y dref. Dwi’n drachtio’r haul y tu allan i gaffi-bar Alfred’s, ac yn cael modd i fyw yn gweld byrddaid o fenywod lliw haul potel o’r Rhondda ochr yn ochr â phrifeirdd a’u teuluoedd. Fin nos, bu canu cynulleidfaol rownd piano yng Nghlwb y Bont a stompio i Rogue Jones yng nghlwb rygbi’r ‘House of Pain’, cyn rhuthro i ddal trên Cymreicia’r genedl am chwarter wedi hanner nos.
Heno, mae’n noson hydrefol. Does gen i affliw o ddim i’w ddarllen ar ôl gorffen nofel fuddugol Eurgain Haf. Mae ffrindiau’n tecstio eu canlyniadau Covid, a’r newyddion yn darogan gwae i Bort Talbot.
Ewch â fi’n ôl i wythnos gyntaf Awst!