Roedd hi’n “braf iawn” ennill teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, medd un o aelodau Cowbois Rhos Botwnnog.

Daeth y band i’r brig gyda’u halbwm diweddaraf, Mynd â’r tŷ am dro, a chael eu gwobrwyo mewn seremoni yn y pafiliwn ar y Maes ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd ddydd Gwener (Awst 9).

Cyrhaeddodd y band y rhestr fer yn 2016 gyda’u halbwm diwethaf, IV, ond Sŵnami aeth â hi’r flwyddyn honno.

Gruffudd Jones, Tomos Jones, Gwenno Morgan, Keziah O’ Hare, Mared Thomas ac Owain Williams oedd y beirniaid eleni, a daeth Mynd â’r tŷ am dro i’r brig o blith deg o albymau.

‘Mis bach digon rhyfedd’

Treuliodd Iwan Hughes, prif leisydd y band, gyfnod yn yr ysbyty’n ddiweddar ar ôl cael ei daro’n wael wrth berfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau.

“Roedd o’n braf iawn, o gysidro ein bod ni wedi cael mis bach digon rhyfedd,” meddai Aled Hughes, sy’n chwarae’r gitâr fas, gitâr drydan a’r allweddellau, ac yn cyfrannu llais cefndir, ar eu pumed albwm, wrth golwg360.

“Roedd o’n ffordd fach neis i gael rhoi hynna tu ôl i ni.”

Nid oedd Iwan yn bresennol i dderbyn y wobr yn y pafiliwn ddydd Gwener, ond fe wnaeth ei fab, Now, ymuno â gweddill y band ar y llwyfan.

“Roedd hynny’n neis iawn, doedden ni ddim wir wedi bwriadu hynny, ond roedd Now wedi dod efo’i fam,” meddai Aled.

“Fe wnaethon ni feddwl y bysa hi’n neis iddo fo allu dod ar y llwyfan efo ni, ac roedd o wedi mwynhau hynny.”

Mynd â’r tŷ am dro yw chweched albwm hir Cowbois Rhos Botwnnog, ac mae’n dilyn casgliad o ganeuon gafodd eu recordio’n fyw yn ystod eu taith deng mlynedd Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn yn Galeri Caernarfon.

Cafodd y wobr ei chyflwyno iddyn nhw gan Ashok Ahir, Llywydd Llys yr Eisteddfod, ac roedd y tlws wedi’i greu gan Tony Thomas, crefftwr yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yr Eisteddfod a BBC Radio Cymru sy’n gyfrifol am drefnu’r wobr, ac roedd y rhestr fer eleni’n cynnwys:

  • Amrwd – Angharad Jenkins a Patrick Rimes
  • Bolmynydd – Pys Melyn
  • Caneuon Tyn yr Hendy – Meinir Gwilym
  • Dim dwywaith – Mellt
  • Galargan – The Gentle Good
  • Llond Llaw – Los Blancos
  • Mynd â’r tŷ am dro – Cowbois Rhos Botwnnog
  • Sŵn o’r stafell arall – Hyll
  • Swrealaeth – M-Digidol
  • Ti ar dy ora’ pan ti’n canu – Gwilym