Mae’r Eisteddfod wedi cyhoeddi datganiad pellach ynghylch y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, yn dilyn helynt ynghylch cyfeddiant diwylliannol gafodd ei dorri gan golwg360 ddydd Gwener (Awst 9).

Roedd hyn ar ôl i’r gystadleuaeth gael ei chanslo.


Dyma’r datganiad ar ran y beirniaid yn ei gyfanrwydd:

“Yn dilyn y trafodaethau a’r dyfalu ar y Maes ac yn arbennig yn y wasg a’r cyfryngau dros y dyddiau diwethaf, mae beirniaid cystadleuaeth y Fedal Ddrama wedi rhyddhau datganiad sy’n egluro’r broses a’r hyn a arweiniodd at benderfyniad Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod i atal cystadleuaeth y Fedal Ddrama eleni.

“Fe ddaethon ni fel beirniaid i’r broses o ddarllen a dewis y ddrama fuddugol eleni yn hollol ddall. Dewiswyd drama roedden ni i gyd yn gytun oedd yn lais cyffrous ac yn safbwynt ffresh a newydd i theatr yng Nghymru. Roedden ni’n disgwyl i bob awdur fod wedi gwneud eu gwaith ymchwil yn drwyadl. Mae hyn yn hollbwysig i ddilysrwydd ac uniondeb y dramau.

“Wrth i’r broses fynd yn ei blaen, daeth yn amlwg i’r Eisteddfod nad oedd modd i’r gystadleuaeth barhau. Nid sensora oedd eu bwriad ond gwarchod pawb a oedd ynghlwm â’r gystadleuaeth a’r gymuned roedd y dramodydd yn honni ei chynrychioli. Penderfyniad Bwrdd yr Eisteddfod oedd hi i atal y gystadleuaeth ar y pwynt yma.

“O fod yn rhan o’r broses feirniadu eleni, rydyn ni’n ni’n hyderus bod llawer o dalent ysgrifennu sy’n werth ei ddathlu ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’r gwaith caled a aeth mewn i bob un drama. Gobeithio y daw cyfle i ni weld rhai o’r dramau ddaeth i law ar ein llwyfannau yn y dyfodol.

“Diolch i’r Eisteddfod am ein gwahodd i feirniadu, ond mae ein gwaith ni o feirniadu’r dramau wedi ei wneud, a phob cystadleuydd wedi derbyn beirniadaeth yn unigol am eu gwaith. Ni fyddwn yn gwneud sylwadau pellach yn gyhoeddus ar benderfyniad yr Eisteddfod i atal y gystadleuaeth, gan nad ydym yn rhan o broses penderfynu Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod.

“Byddwn ni’n hapus i fod yn ran o drafodaethau pellach o fewn y sector pan fydd canllawiau newydd yr Eisteddfod yn cael eu cyhoeddi yn hwyrach yn y flwyddyn, gan ei bod hi’n sgwrs bwysig i’w chael, gan obeithio y daw newidiadau positif i’r gystadleuaeth yn y dyfodol.”

‘Cyfrifoldeb i warchod pawb’

“Mae gan yr Eisteddfod gyfrifoldeb i warchod pawb sy’n ymwneud â’n cystadlaethau, gan gynnwys y rheini sydd wedi cystadlu a’r beirniaid. Dyna fu’r nod drwy gydol y broses hon,” meddai Ashok Ahir, Llywydd Llys a chadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Mae’n rhaid pwysleisio fod y beirniaid yn cytuno â phenderfyniad Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, a bod yr Eisteddfod wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â hwy drwy gydol y trafodaethau dros yr wythnosau diwethaf.

“Rydyn ni eisoes wedi dweud y byddwn yn edrych ar y prosesau sy’n ymwneud â’n cystadlaethau cyfansoddi dros y misoedd nesaf, gan sicrhau bod ein holl amodau a rheolau yn addas ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn dechrau yng nghyfarfodydd ein panelau canolog ddiwedd Medi.

“Rydyn ni’n cytuno bod angen sgwrs am yr hyn sydd wedi codi eleni, fel rhan o’r gystadleuaeth ei hun, ynghyd â’r sylwadau a’r dyfaliadau diddiwedd sydd wedi’u gwyntyllu drwy’r wasg a’r cyfryngau dros y dyddiau diwethaf.

“Rydyn ni’n fodlon iawn i arwain y drafodaeth ar y cyd gyda’r sector yn yr hydref.

“Rydyn ni’n ymwybodol fod rhai’n teimlo’n gryf iawn am y mater hwn, ac rydyn yn falch fod pobol yn teimlo perchnogaeth am yr Eisteddfod a’n cystadlaethau. Mae hyn yn elfen hollbwysig o ethos ein prifwyl.

“Mae’r dyddiau diwethaf wedi bod yn rhai anodd i bawb, ac rwy’n gobeithio y bydd cyfle am drafodaeth adeiladol ac aeddfed am hyn oll yn yr hydref.”

Y Fedal Ddrama: “Fyswn i ddim yn trio eto os mai fel hyn mae hi’n mynd i fod”

Cadi Dafydd

Derbyniodd Wyn Bowen Harries nodyn gan yr Eisteddfod yn diolch iddo am gystadlu, ynghyd â sylwadau’r beirniaid

Canslo seremoni’r Fedal Ddrama: Galw am eglurhad

Dydy’r Eisteddfod na’r beirniaid ddim am wneud sylw, ond fydd y Fedal Ddrama ddim yn cael ei rhoi eleni a fydd dim beirniadaeth