Bu cyhoeddwr llyfrau yn dosbarthu matiau cwrw ar Faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd i roi hwb i nofel “unigryw” a “gwahanol iawn”.
Mae’r wasg yn disgrifio V+Fo, nofel gyntaf yr awdur Gwenno Gwilym – fydd allan gan Wasg y Bwthyn ym mis Tachwedd – fel “nofel unigryw a doniol sy’n neidio rhwng dau berson a dwy iaith”.
Cafodd y wasg grant marchnata gan y Cyngor Llyfrau a phenderfynu creu mat cwrw i’w ddosbarthu yn yr Eisteddfod, ag arno lun tebyg i glawr y nofel.
Roedd côd QR ar y matiau y gallai pobol ei sganio i gael blas o brolog a phennod gyntaf y nofel.
Mae nifer o’r penodau sydd yn llais y cymeriad V mewn Cymraeg llafar bob dydd, a nifer o benodau cymeriad y gŵr, Rob, yn cynnwys llawer o Saesneg.
Mae’r wasg yn rhybuddio: “Mae’r nofel yma yn cynnwys lot o Wenglish a lot o regi!”
‘Rhaid i ni chwilio am bethau sy’n mynd i gyffroi pobol’
Mae Mari Emlyn, golygydd y nofel, yn sgwrsio yn rhifyn diweddaraf Golwg (dydd Iau, Awst 8) am yr angen i gyhoeddwyr llyfrau Cymraeg farchnata mewn ffyrdd dychmygus.
“Yr eliffant yn y stafell yw bod niferoedd pobol sy’n prynu llyfrau Cymraeg ar i lawr,” meddai.
“Rhaid i ni fod yn broactif, ac nid ond cynhyrchu’r stwff arferol ond chwilio am bethau sy’n mynd i gyffroi pobol.
“Mae hi yn nofel wahanol iawn i unrhyw beth sy’ wedi cael ei chyhoeddi yn y Gymraeg o’r blaen.
“Ein bwriad ni efo hon ydi ceisio denu darllenwyr newydd i’r Gymraeg, darllenwyr sydd efallai’n swil o ddarllen llyfrau Cymraeg.
“Mae hi’n darlunio perthynas cwpwl ifanc priod, sydd efo dau o blant bach. Mae yna un sy’n siarad Cymraeg a dydi’r llall ddim.
“Yr hyn mae’r nofel yn ei ddarlunio ydi’r heriau sydd yna o geisio magu plant yn ddwyieithog, yn enwedig pan fo’r berthynas honno yn chwalu.”
‘Ddim eisio sgwrs am ddwyieithrwydd – ro’n i eisio’i ddangos o’
“I fi mae’r nofel yn bortread realistig mae lot o bobol yn byw yno fo,” meddai’r awdur Gwenno Gwilym, gafodd ei magu yn Nyffryn Conwy ond sydd bellach yn byw yn Nyffryn Ogwen.
“Does yna ddim llawer o bobol yn byw bywyd hollol Gymraeg, ac mae’r nofel yn dangos hyn.
“Do’n i ddim eisio ei drafod o, do’n i ddim eisio sgwrs am ddwyieithrwydd; ro’n i eisio’i ddangos o.”
Mae’r cyhoeddwr yn bwriadu dosbarthu’r matiau cwrw o gwmpas colegau adeg Wythnos y Glas.
Caiff V+Fo gan Gwenno Gwilym ei chyhoeddi gan Wasg y Bwthyn ym mis Tachwedd.