Mewn seremoni arbennig ar faes Sioe Sir Fôn heddiw (dydd Mawrth, Awst 13), mae Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd 2026 wedi cyhoeddi enillydd cystadleuaeth dylunio logo swyddogol yr ŵyl.
Ellie Jones, sy’n 20 oed ac yn dod o Dalwrn ger Llangefni, oedd yn fuddugol.
Bydd ei logo i’w weld ar holl nwyddau hyrwyddo’r Eisteddfod – o’r hwdis a chrysau T, i’r capiau haul a photeli dŵr, yn ogystal â nwyddau eraill.
Roedd dros 900 o blant a phobol ifanc wedi ymgeisio yn y gystadleuaeth, ac yn ôl Manon Wyn Williams, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, roedd y pwyllgor wrth eu boddau fod cynifer o bobol wedi cymryd rhan.
“Bu’r Pwyllgor Celf yn brysur yn beirniadu a phleser yw cyhoeddi mai dylunydd y logo buddugol yw Ellie Jones o Dalwrn,” meddai.
“Llongyfarchiadau calonnog iddi!”
Paratoadau “wedi hen ddechrau”
Aeth Manon Wyn Williams yn ei blaen i nodi bod y paratoadau ar gyfer yr ŵyl “wedi hen ddechrau”.
“Mae testunau wedi eu dewis, y pwyllgorau apêl wedi eu sefydlu a gweithgareddau codi arian yn cael eu cynnal ledled yr Ynys,” meddai.
“Diolch i bawb am eu gwaith a’u hamser i sicrhau y bydd Eisteddfod 2026 yn chwip o Eisteddfod!”
Mae’r Urdd eisoes wedi cyhoeddi mai Cae Sioe Môn ger Gwalchmai fydd lleoliad yr Eisteddfod ar yr ynys rhwng Mai 24-31, 2026
Aeth dau ddegawd heibio ers i ŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop gael ei chynnal ar y Fam Ynys yn 2004.