Ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd eleni, cyhoeddodd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru ysgoloriaeth newydd, sef Ysgoloriaeth Dan a Lona Puw, y Parc ger y Bala.

Bydd yr ysgoloriaeth hon yn rhoi’r cyfle i enillwyr prif gystadlaethau Cerdd Dant yn ein gwyliau cenedlaethol – yr Urdd, y Genedlaethol a’r Ŵyl Gerdd Dant – fynychu cwrs gosod a chyfeilio blynyddol y Gymdeithas.

Bydd yr ysgoloriaeth yn talu am yr holl ffïoedd i’r cwrs gosod a chyfeilio hwnnw.

Yn ôl Nia Clwyd Davies, hyfforddwraig cerdd dant o ardal Llandeilo, mae’r ysgoloriaeth hon yn “wych”.

“Mae’r grefft [o osod] yn unigryw inni yma yng Nghymru ac os na ’dan ni’n ei throsglwyddo hi i’r genhedlaeth nesa’, dydi hi ddim am oroesi,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna gyfrifoldeb arnom ni sy’n gosod i basio’r grefft ymlaen.”

Yr ysgoloriaeth

Fe fu egin syniad ar gyfer yr ysgoloriaeth hon ers cryn amser, ond wedi marwolaeth Lona Puw eleni, fe benderfynwyd ailenwi’r ysgoloriaeth hon er cof am y ddau gan eu plant Mererid, Euros, Iolo, Ffuon a Guto.

Roedd Dan Puw yn un o ffigurau amlycaf y byd cerdd dant yng Nghymru, ac yn un o hoelion wyth y Gymdeithas, a’i wraig bob amser yn gefn ac yn gefnogol iddo.

Wrth siarad â golwg360, dywed Guto Puw, eu mab, fod y cwrs yma “yn fodd o gael arweiniad ychwanegol i fedru rhoi’r elfennau o osod yn eu lle fel bod modd i bobol ifanc gael y wybodaeth”.

Mae’n gwrs fydd yn eu galluogi i fagu hyder ar gyfer gosod cerdd dant eu hunain i’r dyfodol, meddai.

“Mi fydd yr ysgoloriaeth o ran ei henw yn dwyn i gof be’ oedd dad wedi’i wneud.

“Roedd y traddodiad yn ddwfn yn ei wreiddiau ac ym mêr ei esgyrn, a’r gobaith gyda’r ysgoloriaeth ydi y bydd hynny wedyn yn cael ei drosglwyddo i’r genhedlaeth iau.”

Cyfraniad Dan Puw i gerdd dant ac alaw werin yn amhrisiadwy

Er mai ffermwr oedd Dan Puw wrth ei waith bob dydd, roedd yn adnabyddus i genedlaethau o Gymry fel hyfforddwr a beirniad cerdd dant ac alawon gwerin.

Treuliodd ei oes yn hyfforddi cantorion yn ei ardal leol ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ŵyl Gerdd Dant.

Bu’n arwain Parti Brenig ddiwedd y 1970au a dechrau’r ’80au, yn llywio parti Meibion Llywarch ers ei sefydlu yn 1987, ynghyd ag arwain Aelwyd yr Urdd yn lleol am bymtheg mlynedd.

Yn 2017, derbyniodd Fedal Goffa Syr T.H. Parry-Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gyfraniad i’r ardal leol, ac am ei waith gyda phobol ifanc.

Y cwrs

Mae’r cwrs gosod a chyfeilio yn digwydd yn flynyddol gan y Gymdeithas Gerdd Dant, gan amlaf yng nghanolbarth Cymru yn ystod penwythnos ym mis Medi.

Mae’n gwrs “cartrefol” ac yn rhoi dechreuad i’r daith o osod gan “annog pobol i drio a rhoi’r cyfle i fentro”, yn ôl Nia Clwyd Davies.

Roedd Dan Puw wedi ei hannog hi a sawl un arall i ddechrau gosod, ac mae’r ysgoloriaeth a’r cwrs yn sicrhau bod ei waddol yn parhau.

“Byddai wrth ei fodd yn gweld y genhedlaeth nesaf yn bwrw ati a bod y grefft yn parhau,” meddai Nia Clwyd Davies.