Bu farw Margaret Jones, un o ddarlunwyr cain gorau Cymru, yn 105 oed.
Daeth â chwedlau’r Mabinogi yn fyw i genedlaethau o Gymry drwy ei darluniau cain, rhamantus o’r chwedlau y bu’n eu creu am 30 mlynedd a mwy.
Mae ei darluniau hardd yn rhan greiddiol o’r diwylliant gweledol cyfoes Cymraeg.
Darluniodd doreth o lyfrau ar chwedlau gwerin Cymru, a chwedlau clasurol a rhai’r India, lle bu’n byw gyda’i gŵr ar ddechrau eu bywyd priodasol yn y 1940au.
Roedd hi’n enedigol o Gaint yn Lloegr, ac roedd hi’n dwlu ar chwedlau ers ei bod hi’n ferch fach, a’i hoff lyfr erioed oedd cyfrol o chwedlau gwerin Iwerddon o’r 1920au.
Priododd y Cymro Basil Jones, gweinidog Presbyteraidd o Benrhiw-ceibr ger Aberdâr.
Ymgartrefodd y ddau yn Aberystwyth wedi iddo fe gael ei benodi’n ddarlithydd mewn Astudiaethau Crefyddol yn y brifysgol yno.
Dechrau gyrfa yn 60 oed
Roedd Margaret Jones yn 60 oed cyn dechrau ennill bara menyn yn darlunio, ar ôl magu chwech o blant.
Symudodd y teulu o’r Buarth yn Aberystwyth i Gapel Bangor a gwnaeth hi stiwdio uwchben y garej.
Daeth trobwynt ar ôl iddi gael comisiwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddarlunio llyfr Y Mabinogi gyda Gwyn Thomas, gafodd ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru ar ran y Cyngor yn 1984.
Fe gafodd y gyfrol Culhwch ac Olwen, cyfaddasiad newydd gan Gwyn Thomas, ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1988.
Enillodd y llyfr wobr Gymraeg Tir na n-Og yn 1989, a dyma’r gyfrol roedd yr arlunydd yn fwyaf balch ohono.
Cafodd y gyfrol The Quest for Olwen, gan Gwyn Thomas a Kevin Crossley-Holland, ei chyhoeddi gan Lutterworth Press hefyd yn 1988.
“Ro’n i ar fy ngorau bryd hynny,” meddai wrth Golwg yn 2009.
“Doedd y Mabinogion ddim yn hollol sicr, ond ro’n ni yn fy elfen â Culhwch ac Olwen. Mae llawer o hiwmor ynddo ynghyd â llawer o antur.”
Ar ôl darlunio map ar gyfer y llyfr dwyieithog Chwedlau Gwerin Cymru gan Robin Gwyndaf ar ran Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1989, cafodd y map ei droi yn boster.
Bu’n boblogaidd iawn, fel y bu’r posteri o fap y Mabinogion a chwedl Culhwch ac Olwen.
Byddai’r posteri i’w gweld ar waliau ar hyd a lled y wlad, a byddai ymwelwyr yn eu prynu fel swfenîr o Gymru.
Lluniodd Margaret Jones gyfres o luniau o fisoedd ar gyfer calendr hardd gafodd eu troi yn brintiau.
Mae nifer o’i darluniau gwreiddiol yn y Llyfrgell Genedlaethol – fel ei darluniau nodedig ar Owain Glyndŵr a wnaeth adeg troad y Mileniwm.
Teimlo “cyfrifoldeb enfawr” wrth arlunio arwyr y Mabinogi
Y llyfr olaf i Margaret Jones ei ddarlunio oedd Llywelyn Ein Llyw Olaf gan Gwyn Thomas yn 2009.
Roedd ei golwg wedi bod yn dirywio yn gyflym ers 2007.
Dywedodd wrth Golwg yn 2009 ei bod hi yn teimlo “cyfrifoldeb enfawr” am roi wyneb i arwyr y chwedlau fel Branwen, Bendigeidfran, Olwen, Ysbaddaden Bencawr, Pwyll a Gwydion.
“Mewn ffordd rydych chi’n helpu i ffurfio syniadau plant,” meddai.
“Pan fyddan nhw’n hŷn, byddan nhw’n clywed y stori a beth fyddan nhw’n ei gofio yw llun ohono fe a sut y digwyddodd e.
“Mewn ffordd mae’n gyfrifoldeb enfawr ond allwch chi ddim cael eich ysbrydoli gan ysbrydoliaeth neb arall – rhaid i chi wneud e fel rydych chi’n ei weld e.”
Mewn teyrnged iddi ar Facebook, cyfeiriodd yr arlunydd Peter Stevenson ati fel “the finest illustrator and visual storyteller Wales has ever known“.
Roedd Margaret Jones yn fam-gu i’r artist ffigurol Seren Jones o Aberystwyth.
Mae’r Lolfa wedi ailgyhoeddi’r map Chwedlau Gwerin Cymru i gyd-fynd ag ailargraffiad o’r llyfr yn gynharach eleni.