Mae BAFTA Cymru wedi cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2024.

Bydd y noson wobrwyo’n cael ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru nos Sul, Hydref 20.

Mae’r gwobrau’n anrhydeddu rhagoriaeth ac yn dathlu talent ar draws y byd ffilm a theledu yng Nghymru.

Mae 21 o gategorïau yn y Gwobrau eleni, ac ymhlith y cynyrchiadau sydd wedi’u henwebu ar gyfer y nifer fwyaf o wobrau mae Men Up (chwech), Doctor Who (pump), Pren ar y Bryn (pump), Steeletown Murders (pump), a Wolf (pedair).

Mae Siân Phillips yn 90 a Chuck Chuck Baby wedi’u henwebu ar gyfer tair gwobr, ac mae dau enwebiad i Rhod Gilbert: A Pain in the Neck a Strike! The Women Who Fought Back.

Mae’r categorïau perfformio’n cynnwys pedwar unigolyn sydd wedi’u henwebu am wobr BAFTA Cymru am y tro cyntaf, sef Aimee-Ffion Edwards (Dreamland), Alexandra Roach (Men Up), Ncuti Gatwa (Doctor Who) a Philip Glenister (Steeltown Murders).

Mae eraill sydd wedi’u henwebu am y tro cyntaf yn cynnwys Jess Howe (Cyfarwyddwr: Ffeithiol ar gyfer Strike! The Women Who Fought Back), Megan Gallagher (Awdur ar gyfer Wolf), Matthew Barry (Awdur ar gyfer Men Up) a Stifyn Parry (Cyflwynydd ar gyfer Paid â Dweud Hoyw).

Bydd cyflwynwyr gwobrau sy’n cynrychioli’r gorau o dalent greadigol y sector yn ymddangos ar y carped coch ac yn cyhoeddi’r enillwyr ar y noson.

‘Llongyfarchiadau’

“Llongyfarchiadau i enwebeion BAFTA Cymru eleni, sydd wedi dangos crefft a chreadigrwydd eithriadol ar y sgrin ac oddi arni trwy ystod drawiadol iawn o waith,” meddai Angharad Mair, cadeirydd BAFTA Cymru.

“Mae enwebeion BAFTA Cymru heddiw yn rhestr o ffilmiau, sioeau teledu a pherfformiadau y mae’n rhaid eu gwylio ac yn pwysleisio pwysigrwydd meithrin talent greadigol yng Nghymru a diwydiannau sgrin sy’n tyfu’n gyflym fel bod cynnwys gwych yn gallu parhau i gael ei wneud yn y dyfodol.

“Mae BAFTA yn falch o hyrwyddo a chefnogi diwydiannau sgrin Cymru trwy Wobrau BAFTA Cymru a’n rhaglenni dysgu a’n digwyddiadau ar hyd y flwyddyn, felly edrychwn ymlaen at ddathlu’r holl enwebeion ac enillwyr, a chydnabod eu hymdrechion, yng Ngwobrau BAFTA Cymru fis nesaf.”

‘Ysbrydoli’

“Rwy’n cael fy ysbrydoli gan y creadigrwydd a’r sgil eithriadol gafodd ei ddangos ar draws pob un o’r 21 categori yng Ngwobrau BAFTA Cymru eleni,” meddai Rebecca Hardy, Pennaeth BAFTA Cymru.

“Mae’r enwebeion yn dyst i’r gwaith caled a’r ymrwymiad i’w crefft a chryfder y celfyddydau sgrin yng Nghymru.

“Mae BAFTA Cymru yn falch o hyrwyddo ein cymuned greadigol dalentog yma yng Nghymru yn ogystal â chefnogi’r genhedlaeth nesaf, i sicrhau ein lle ar fap diwydiannau sgrin y byd-eang.”

Mae noddwyr a phartneriaid y digwyddiad wedi cael eu cadarnhau, sef BBC Cymru Wales, Champagne Taittinger, Coco & Cwtsh, Creative Wales, Deloitte, EE, Executive Cars Wales, Gorilla, Hildon, Lancôme, S4C a Villa Maria.

 


 

ACTOR

NCUTI GATWA Doctor Who – Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

PHILIP GLENISTER Steeltown Murders – Severn Screen / BBC One Wales

RHODRI MEILIR Pren ar y Bryn – Fiction Factory / S4C

SION DANIEL YOUNG Slow Horses – See-Saw Films mewn cysylltiad ag Apple / Apple TV+

 

ACTORES

AIMEE-FFION EDWARDS Dreamland – Merman Television / Sky Atlantic

ALEXANDRA ROACH Men Up – Boom Cymru / Quay Street Productions / BBC One

ANNES ELWY Bariau – Rondo Media / S4C

NIA ROBERTS Pren ar y Bryn – Fiction Factory / S4C

 

TORRI TRWODD CYMRU

ALAW LLEWELYN ROBERTS Bariau – Rondo Media / S4C

BETHAN MARLOW The Date – Candid Broads Productions

DAISY BROWN Slammed: The Eighties – BBC Cymru Wales / BBC One Wales

JANIS PUGH Chuck Chuck Baby – Artemisia Films Ltd / Delta Pictures

 

RHAGLEN BLANT

I WAS BULLIED – Yeti Television / CBBC

NEWYDDION NI – BBC Cymru / S4C

SER STEILIO – Yeti Television / S4C

 

DYLUNIO GWISGOEDD

DAWN THOMAS-MONDO Steeltown Murders – Severn Screen / BBC One Wales

HAYLEY NEBAUER Black Cake – Hulu / CBS UK Productions Ltd / Kapital Entertainment / Disney+

FFION ELINOR Pren ar y Bryn – Fiction Factory Films / S4C

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL

CARYL EBENEZER Siân Phillips yn 90 – Rondo Media / S4C

CHLOE FAIRWEATHER The Kidnap of Angel Lynn – Wonderhood Studios / Channel 4

JENNY CASTERTON The Crash Detectives – BBC Cymru Wales / BBC One Wales

JESS HOWE Strike! The Women Who Fought Back – Frank Films / BBC One Wales

 

CYFARWYDDWR: FFUGLEN

ASHLEY WAY Men Up – Quay Street Productions / Boom Cymru / BBC One

EUROS LYN Heartstopper – See-Saw Films / Netflix

LEE HAVEN JONES Passenger – Sister Pictures / ITV/ Britbox / ITV1

MARC EVANS Steeltown Murders – Severn Screen / BBC One Wales

 

GOLYGU

DYLAN GOCH Firebombers – Zwwm / BBC One Wales

JOHN RICHARDS Men Up – Boom Cymru / Quay Street Productions / BBC One

SARA JONES The Way – Red Seam mewn cysylltiad â Little Door Productions / BBC One

TIM HODGES Doctor Who – Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

 

RHAGLEN ADLONIANT

CÂN I GYMRU 2024 – Afanti Media / S4C

CHRISTMAS WITH KATHERINE JENKINS – Afanti Media / BBC Two

IAITH AR DAITH – Boom Cymru / S4C

MAX BOYCE AT 80 – Afanti Media / BBC One Wales

 

CYFRES FFEITHIOL

SIWRNA SCANDI CHRIS – Cwmni Da / S4C

SLAMMED: THE EIGHTIES – BBC Cymru Wales / BBC One Wales

WELCOME TO WREXHAM – NEO Studios for Boardwalk Pictures / FX/ Disney+

Y FRWYDR: STORI ANABLEDD – Cardiff Productions / S4C

 

FFILM NODWEDD/DELEDU

BOLAN’S SHOES – Buffalo Dragon

CHUCK CHUCK BABY – Artemisia Films Ltd / Delta Pictures

MEN UP – Boom Cymru / Quay Street Productions / BBC One

 

COLUR A GWALLT

CLAIRE PRITCHARD-JONES Wolf – Hartswood Films / APC Studios / BBC One

CLAIRE WILLIAMS Doctor Who – Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

JAMES SPINKS Y Sŵn – Swnllyd

 

FFOTOGRAFFIAETH: FFEITHIOL

HAYDN DENMAN Siân Phillips yn 90 – Rondo Media / S4C

SAM JORDAN-RICHARDSON Legends of Welsh Sport: Jim Roberts – On Par Productions / BBC One Wales

THEO TENNANT Frontier Town – Beehive Films Ltd

 

FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN

BRYAN GAVIGAN Passenger – SISTER mewn cysylltiad â Northern SISTER / ITV

SAM HEASMAN Wolf – Hartswood Films / APC Studios / BBC One

SAM THOMAS Steeltown Murders – Severn Screen / BBC One Wales

 

CYFLWYNYDD

CHRIS ROBERTS Siwrna Scandi Chris – Cwmni Da / S4C

LEMARL FRECKLETON Black Music Wales – Lazerbeam / BBC Two Wales

RHOD GILBERT Rhod Gilbert: A Pain In the Neck – Kailash Films / Llanbobl Vision / Channel 4

STIFYN PARRI Paid â Dweud Hoyw – Rondo Media / S4C

 

DYLUNIO CYNHYRCHIAD

CAROLINE STEINER Chuck Chuck Baby – Artemisia Films Ltd / Delta Pictures

GERWYN LLOYD Pren ar y Bryn – Fiction Factory Films / S4C

JAMES NORTH The Winter King – Bad Wolf / ITVX

 

FFILM FER

BEING SEEN – On Par Productions

FRONTIER TOWN – Beehive Films Ltd

SMILE – Tremendos Films / Captain Howdy Films Ltd

SPECTRE OF THE BEAR – CPE Productions / Ffilm Cymru Wales / BFI Network / BBC Cymru Wales

 

RHAGLEN DDOGFEN SENGL

PAID Â DWEUD HOYW – Rondo Media / S4C

RHOD GILBERT: A PAIN IN THE NECK – Kailash Films / Llanbobl Vision / Channel 4

SIÂN PHILLIPS YN 90 – Rondo Media / S4C

STRIKE! THE WOMEN WHO FOUGHT BACK – Frank Films / BBC One Wales

 

SAIN

Y TÎM SAIN Doctor Who – Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

Y TÎM SAIN Men Up – Quay Street Productions / Boom Cymru / BBC One

Y TÎM SAIN Wolf – Hartswood Films / APC Studios / BBC One

 

DRAMA DELEDU

CASUALTY – BBC Studios / BBC One

PREN AR Y BRYN – Fiction Factory Films / S4C

STEELTOWN MURDERS – Severn Screen / BBC One Wales

 

AWDUR

RUSSELL T DAVIES Doctor Who – Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

MATTHEW BARRY Men Up – Boom Cymru / Quay Street Productions / BBC One

MEGAN GALLAGHER Wolf – Hartswood Films / APC Studios / BBC One