Wrth i’r opera sebon Pobol y Cwm ddathlu ei phen-blwydd yn 50 oed fis nesaf, bydd y set ar agor i’r cyhoedd.

Mae’r tocynnau, sydd wedi eu rhyddhau ar wefan Pobol y Cwm, yn rhoi cyfle unigryw i bobol ddathlu’r pen-blwydd mawr gyda’i gilydd, y tu ôl i’r llen yng Nghwmderi, y pentref dychmygol sy’n cael ei ffilmio yng nghanolfan BBC Studios Cymru ym Mae Caerdydd.

Yn ogystal ag agor y drysau i’r setiau eiconig y tu mewn i’r stiwdios drama, bydd y teithiau yn ymweld â’r brif stryd adnabyddus yng Nghwmderi.

Pobol y Cwm yw opera sebon deledu hynaf y BBC, sydd wedi cael ei ddarlledu ar S4C ers 1982.

Agorodd y bennod gyntaf ar Hydref 16, 1974 am 7.10yh, gyda’r llinell agoriadol “Bore da, Maggie Mathias” gan Harri Parri, cymeriad Charles Williams.

Symudodd y stryd fawr i stiwdio’r BBC yn Llandaf yn 1996, ac fe fu’r set bresennol ym Mae Caerdydd ers 2011.

Erbyn hyn, mae Pobol y Cwm yn cael ei darlledu rhwng nos Fawrth a nos Iau am 8 o’r gloch, gyda rhifyn omnibws bob dydd Sul am 6.10yh, gydag is-deitlau Saesneg.

Teithiau

Bydd teithiau dwyieithog o’r set yn rhoi cyfle i bobol weld yr union fannau lle mae’r caru a’r cecru, a’r chwerthin a’r dagrau yn digwydd.

Bydd rhai o actorion y gyfres, gan gynnwys Jonathan Nefydd (Colin), Sera Cracroft (Eileen) a Dyfan Rees (Iolo), yn arwain y teithiau a bydd cyfle i’r cyhoedd holi cwestiynau wrth grwydro o amgylch y setiau.

Bydd actorion gwahanol yn tywys y teithiau bob dydd.

“Mae cymaint o bobol wedi bod yn holi am y teithiau hyn, ac rydym yn falch iawn o allu ailagor ein drysau ar achlysur mor bwysig yn hanes y gyfres,” meddai Dafydd Llywelyn, cynhyrchydd Pobol y Cwm.

“Edrychwn ymlaen at groesawu pawb yma.”

Llwyfan i sêr y dyfodol

Mae Pobol y Cwm wedi bod yn gyfrifol am fagu talent rhai o sêr amlycaf Cymru, gan gynnwys yr actor Hollywood Ioan Gruffudd, seren y West End a’r sgrîn fach Iwan Rheon, a’r seren ffilm a theledu Alexandra Roach.

Bydd S4C yn darlledu nifer o raglenni arbennig i nodi’r pen-blwydd, gan gynnwys rhaglen ben-blwydd nos Fercher, Hydref 16 am 8yh ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Bydd y teithiau’n cael eu cynnal:

  • ddydd Sadwrn, Hydref 12
  • dydd Sul, Hydref 13
  • dydd Iau, Hydref 17
  • dydd Gwener, Hydref 18
  • dydd Sadwrn, Hydref 19

Bydd wyth taith ar gael bob dydd, gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fore Sul, Hydref 13.

“Dwi’n sicr fydd ein cynulleidfa yn bachu ar y cyfle unigryw i gamu ar Stryd Fawr fwyaf eiconig Cymru,” meddai Gwenllian Gravelle, Pennaeth Ffilm a Drama S4C.

“Bydd hi’n brofiad bythgofiadwy ac yn ffordd wych o ddathlu pen-blwydd arbennig Pobol y Cwm yn 50.”

‘Lle pwysig iawn yng nghalonnau gwylwyr’

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Diwylliant a Phartneriaethau, BBC Cymru,

“Ar ben-blwydd mor arwyddocaol mae’n wych gallu croesawu rhai o’r gwylwyr i Gwmderi i gael cipolwg tu ôl i’r llenni ar un o strydoedd enwocaf Cymru,” meddai Siân Gwynedd, Pennaeth Diwylliant a Phartneriaethau BBC Cymru.

“Mae gan y gyfres le pwysig iawn yng nghalonnau gwylwyr ar draws Cymru ac mae hyn yn gyfle unigryw iddyn nhw fod yn rhan o’r dathliadau ac i gwrdd a rhai o’r actorion.

“Dw i’n siŵr y byddan nhw yn cael diwrnod i’w gofio!”