Mae gobeithion y gall tafarn gymunedol newydd yng Nghorwen “ailgychwyn y dref fel hwb i adloniant Cymraeg yn yr ardal”.
Mae’r gymuned yn agos iawn at ddod yn berchnogion ar Westy Owain Glyndŵr, gyda disgwyl i’r gwerthiant fynd drwodd heddiw (dydd Mawrth, Medi 17) neu yn y dyddiau nesaf.
Fe wnaeth Cleif Harpwood ddychwelyd i Gorwen i ganu gyda Geraint Cynan nos Sadwrn (Medi 14), hanner can mlynedd a mwy ers i Edward H. Dafis chwarae ym Mhafiliwn Corwen am y tro cyntaf ym mis Awst 1973.
Doedd Cleif Harpwood ddim yn aelod o’r band bryd hynny, ond bu ar yr un llwyfan ag Ac Eraill, ac fe berfformiodd yno droeon wedyn gydag Edward H. Dafis.
Ddeuddydd cyn Diwrnod Owain Glyndŵr, roedd Gwesty Owain Glyndŵr dan ei sang i wrando ar Cleif Harpwood a Geraint Cynan, a chafodd teyrnged ei rhoi i’r diweddar Dewi ‘Pws’ Morris, cyd-aelod o Edward H. Dafis, gafodd ei gladdu ddydd Iau diwethaf (Medi 12).
‘Hwb o adloniant’
Yn ôl Gwyneth Ellis, sy’n aelod o bwyllgor Gwesty Owain Glyndŵr, roedd hi’n noson “wirioneddol wych”.
“Flynyddoedd yn ôl, roedd Corwen yn hwb i adloniant Cymraeg; roedd yna lot o bethau’n digwydd yn y Pafiliwn yng Nghorwen,” meddai wrth golwg360.
“Roeddwn i yn yr Eisteddfod ym Moduan ac mi glywais i Cleif a Geraint Cynan yn canu, ac yn y perfformiad mae Cleif yn dweud hanesion ac, wrth gwrs, roedd o’n dweud lot o straeon am Edward H. yn y dyddiau cynnar yn y 1970au yn y Pafiliwn yng Nghorwen.
“Fe wnaeth hynny wneud i fi feddwl ein bod ni angen ei gael o’n ôl i Gorwen er mwyn gwneud perfformiad i gyd-fynd â phrynu Gwesty Owain Glyndŵr.”
Roedd y pwyllgor wedi gobeithio y bydden nhw’n berchen ar y gwesty – y maen nhw’n bwriadu ei redeg fel tafarn, hwb cymunedol a gwesty – erbyn y noson fel ei fod yn ddathliad o hynny, ond roedden nhw ychydig o ddyddiau’n gynnar.
“Roedd o’n emosiynol achos roedd [Cleif Harpwood] wedi bod yn claddu Dewi Pws yn gynharach yn yr wythnos, felly fe wnaeth o dalu teyrnged i Dewi yn y noson hefyd a chwarae lot o’i ganeuon o a chaneuon roedden nhw wedi’u cyfansoddi ar y cyd.
“Roedd hi’n andros o noson, wedi gwerthu pob tocyn – cant o docynnau – andros o awyrgylch dda yna.
“Roedd hi’n noson arbennig, felly gobeithio ei bod hi’r gyntaf o nifer, ac y gallwn ni ailgychwyn cael Corwen yn ryw hwb o adloniant Cymraeg i’r ardal.”
Yn ystod 1970au a’r 1980au, daeth Pafiliwn Corwen yn enwog fel man perfformio i grwpiau Cymraeg.
Roedd nosweithiau Sgrech yn cael eu cynnal yno hefyd, ac yn 1999 perfformiodd y Super Furry Animals yno.
Caeodd y Pafiliwn yn 2010, a chafodd ei ddymchwel yn 2015.
‘Lles mawr i’r dref’
Mae’r ymgyrch gymunedol i brynu Gwesty Owain Glyndŵr wedi bod ar y gweill ers o leiaf ddwy flynedd, a phenderfynodd y gymuned ddod ynghyd wedi iddo fod ar y farchnad heb fawr ddim diddordeb am ychydig fisoedd.
“Os doedd hi ddim yn mynd i werthu, roedd hi’n well ein bod ni’n ei phrynu hi achos y peth diwethaf oedd Corwen eisiau oedd adeilad mawr fel yna reit yng nghanol y dref yn wag,” meddai Gwyneth Ellis wedyn.
Ychwanega fod ganddyn nhw gynlluniau ar gyfer y gwesty, ond fod llawer o waith i’w wneud i’w datblygu nhw.
Bydd rheolwr dros dro lleol yn rhedeg Gwesty Owain Glyndŵr am ryw ddeufis, nes eu bod nhw’n penodi rheolwr llawn amser.
“Mi wneith o les mawr i’r dref,” meddai.
“Mae Corwen yn colli’r Pafiliwn; mi oedd y Pafiliwn yn bwysig iawn, iawn i Gorwen.
“Mae’r dref ar ei lawr ychydig bach; mae hi’n dref neis, ond mae yna siopau wedi’u cau’n ddiweddar.
“Does yna ddim tafarn yn gwneud bwyd yn y dref ar y funud; mae hynna’n un peth rydyn ni’n bendant eisiau.
“Dw i’n meddwl mai’r peth pwysicaf efo’r Owain Glyndŵr ydy gallu rhoi nosweithiau ymlaen – gwahanol bethau er mwyn dod ag adloniant yn ôl i’r lle.”