Bydd oedi i streiciau corws Opera Cenedlaethol Cymru yn sgil trafodaethau adeiladol ynglŷn â’r toriadau.
Yn ôl undeb Equity, ni fydd y streiciau oedd wedi’u trefnu ar gyfer Medi 21 a 29 yn mynd yn eu blaenau wedi “trafodaethau cynhyrchiol” gyda rheolwyr Opera Cenedlaethol Cymru.
Fodd bynnag, bydd aelodau’r corws dal i gymryd “camau yn fyr o streic” trwy gydol y tymor.
Ar hyn o bryd, mae’r streic ar Hydref 11 yn dal i fynd yn ei blaen hefyd.
Mae aelodau’r corws yn wynebu o leiaf 15% o doriad i’w cyflog, gostyngiad yn oriau eu cytundebau a gostyngiad i nifer aelodau’r y corws.
Dywed Equity y byddai’r broses yn arwain at “fygythiadau gwirioneddol” o ddiswyddiadau gorfodol.
Ddechrau’r mis, fe wnaeth 93% o’r corws bleidleisio o blaid streicio.
‘Trafodaethau cadarnhaol’
Mae’r undeb yn dweud nad ydyn nhw wedi cyrraedd cytundeb eto, ac er gwaethaf gohirio’r streic, mae’r corws “yn parhau i bryderu am oblygiadau cynigion presennol y rheolwyr”.
“Rydyn ni wedi’n hannog gan y trafodaethau cadarnhaol diweddar â rheolwyr Opera Cenedlaethol Cymru, a dyna pam bod ein haelodau wedi gwneud y penderfyniad i oedi’r streiciau,” meddai Simon Curtis, Swyddog Equity Cymru.
“Fodd bynnag, dydy’r bygythiad heb ddiflannu eto a dydyn ni heb ddod i gytundeb fydd yn sicrhau swyddi a bywoliaethau’r corws.
“Ein dymuniad drwy gydol y broses oedd gweithio gyda’r Bwrdd a’r rheolwyr, ac rydyn ni’n gobeithio parhau i gael trafodaethau adeiladol gyda’r rheolwyr dros yr wythnosau nesaf.”
Ychwanega eu bod nhw’n galw ar Fwrdd Opera Cenedlaethol Cymru i gwrdd â nhw er mwyn deall sefyllfaoedd eu haelodau’n well.
“Yn y cyfamser, bydd pryderon y corws yn parhau i gael eu clywed drwy weithredu sy’n fyr o streic, ac mae mandad y streic dal yn bodoli – sy’n golygu bod streic lawn dal yn bosibilrwydd ac y bydd y streic yn mynd yn ei blaen ar Hydref 11 os nad oes cynnydd digonol cyn hynny.”