Mae’r Senedd wedi dathlu’r Eisteddfod Genedlaethol “orau erioed”, ar ôl i fwy na 186,000 o bobol heidio i Bontypridd dros yr haf.

Fe wnaeth Heledd Fychan, sy’n cynrychioli Canol De Cymru, ganmol Eisteddfod 2024 “hynod lwyddiannus”, gafodd ei chynnal ym Mharc Ynysangharad ddechrau mis Awst.

Yn dilyn dadl fer ddoe (dydd Mercher, Medi 18), dywedodd fod Pontypridd yn llawn bwrlwm a gweithgarwch, gan greu gwaddol yn nhermau’r Gymraeg yn y cymoedd.

“Mae yna gwestiwn i gychwyn: ‘Yr Eisteddfod orau erioed?’,” meddai wrth y Senedd.

“Dyna’r cwestiwn gafodd ei ofyn gan Tudur Owen, dyna’r cwestiwn ar dudalen flaen Golwg, a dyna’r cwestiwn ar wefusau nifer o’r rheiny fynychodd.”

‘Y rhod yn troi’

Dywedodd Heledd Fychan, sy’n gyn-gynghorydd ym Mhontypridd, nad oedd yr Eisteddfod wedi’i chynnal yn Rhondda Cynon Taf ers 1956, felly doedd nifer o bobol ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

Dywedodd yn y ddadl yn y Siambr ei bod hi’n demtasiwn iddi dawelu nifer o grwpiau Facebook yn y misoedd cyn yr Eisteddfod, o ganlyniad i’r fitriol.

Ond roedd hi wrth ei bodd o weld y rhod yn troi.

“Dylech chi fod wedi gweld y sylwadau… ar yr union wefannau hyn, gyda rhai o’r amheuwyr mwyaf yn eu plith yn canmol y digwyddiad i’r cymylau, a hyd yn oed yn mynegi eu gobeithion y byddai’r Eisteddfod yn dychwelyd,” meddai.

Dywedodd llefarydd diwylliant Plaid Cymru fod yr Eisteddfod eleni’n teimlo’n wahanol, gyda thref gyfan Pontypridd yn teimlo’n rhan o’r digwyddiad.

Dywedodd Heledd Fychan fod busnesau’n fwrlwm o bobol – “cymaint felly nes bod rhai ohonyn nhw wedi rhedeg allan o fwyd yn ystod yr wythnos” – gyda bron i 40,000 o bobol yn ymweld ar y diwrnod prysuraf.

‘Hyfryd’

Fe wnaeth ei chydweithiwr Peredur Owen Griffiths ganmol cystadleuaeth “hyfryd” i fwy na dwsin o gorau oedd erioed wedi cystadlu o’r blaen.

“Wrth gwrs, mae canu corawl yn rhoi cymaint o bleser i bobol, ond mae hefyd o gymorth i iechyd meddwl ac mae’n dod â chymunedau ynghyd,” meddai’r Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru.

Fe wnaeth y Ceidwadwr Tom Giffard ddisgrifio’r Eisteddfod eleni fel un lwyddiannus iawn.

Wrth grybwyll y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith, dywedodd ei bod hi’n bwysig cyrraedd llefydd tu hwnt i gadarnleoedd y Gymraeg.

Dywedodd Sioned Williams o Blaid Cymru ei bod hi’n wythnos i’w chofio, wrth iddi edrych ymlaen at Eisteddfod “Dur a Môr” y flwyddyn nesaf, fydd yn cael ei chynnal ym Mharc Margam, Castell-nedd Port Talbot.

‘Bythgofiadwy’

Wrth ymateb i’r ddadl ar ran Llywodraeth Cymru, dywedodd Jane Hutt fod yr Eisteddfod yn rhoi ail wynt i’r Gymraeg yn yr ardal.

“Roedd yr Eisteddfod eleni’n cynnig cyfle i ddangos Pontypridd a’r cymoedd ar eu gorau, a’r hyn sy’n bosib drwy gydweithio,” meddai wrth y Siambr.

“Mae pobol Ponty a’r sir gyfan wedi gwneud Cymru’n falch.”

Dywedodd Jane Hutt, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, fod y digwyddiad yn 2024 wedi torri sawl record, gan gynnwys y ffaith mai hi yw’r Eisteddfod wyrddaf erioed a bod 100,000 o deithiau trên wedi’u cwblhau.

“Rhoddodd yr Eisteddfod brofiad diwylliannol bythgofiadwy i filoedd o bobol yn y sir, gyda’r iaith Gymraeg wrth galon hynny,” meddai.