Sir Benfro fydd yn cynnal Eisteddfod Genedlaethol 2026.

Bydd y prosiect cymunedol a’r paratoadau ar gyfer yr ŵyl yn cychwyn gyda chyfarfod cyhoeddus am 7 o’r gloch nos Iau, Hydref 10 yn Theatr y Gromlech, Crymych.

Bydd y cyfarfod yn gyfle i bawb sydd am fod yn rhan o’r trefnu i ddod at ei gilydd am sgwrs a chlywed mwy am y cynlluniau sydd ar y gweill.

Bydd y dalgylch hefyd yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a Sir Gaerfyrddin sy’n ffinio gydag ardal Sir Benfro, ac mae hyn yn arbennig o briodol yn ôl yr Eisteddfod, gan y bydd yn gyfle i ddathlu 850 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi yn 1176.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnal yr Eisteddfod yn Sir Benfro ymhen dwy flynedd, ac at weithio mewn ffordd gwbl newydd, gan ddod â rhannau o dair sir at ei gilydd i greu prosiect a gŵyl sy’n ddathliad o’n hiaith a’n diwylliant yn lleol a chenedlaethol,” meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

“Rydyn ni eisoes wedi cychwyn gweithio gyda Chyngor Sir Benfro fel yr awdurdod arweiniol, ac yn falch iawn i gydweithio gyda chynghorau Ceredigion a Sir Gâr eto.

“Mae’n gyfle i ni weithio ar Eisteddfod mewn ffordd newydd, gan fanteisio ar arbenigedd tîm o awdurdodau lleol.

“Bydd hyn yr un mor wir ar lawr gwlad, a byddwn yn amlinellu’r dalgylch a’r cyfleoedd sydd ar gael i ymuno â ni dros y ddwy flynedd nesaf yn y cyfarfod cyhoeddus ddechrau Hydref.

“Dydyn ni heb fod yn Sir Benfro ers 2002, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i ardal roddodd gymaint o groeso i ni pan gafodd yr ŵyl ei chynnal yn Nhyddewi bryd hynny.

“Mae nifer fawr o gyfleoedd ar gael, yn trefnu a chefnogi gweithgareddau cymdeithasol yn ogystal â’r gwaith o gynnig syniadau ar gyfer ein cystadlaethau a rhaglen yr wythnos.

“Dewch i weld beth sydd ar gael ac i drafod sut y gallwn ni gydweithio i greu prosiect a gŵyl i’w cofio yn yr ardal.

“Mae croeso mawr i bawb o bob oed.”

Manylion pellach

Mae modd cofrestru ar-lein i gymryd rhan nawr.

Mae’r Eisteddfod hefyd wedi agor enwebiadau ar gyfer swyddogion y Pwyllgor Gwaith, sef y cadeirydd, yr is-gadeirydd strategol, yr is-gadeirydd diwylliannol, ysgrifennydd a chadeirydd y gronfa leol, ynghyd â hwyluswyr ar gyfer pwyllgorau eraill, a’r dyddiad cau ar gyfer y rhain yw nos Wener, Hydref 19.

Yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus, bydd y gwaith o ddewis cystadlaethau ar gyfer y Rhestr Testunau, ynghyd â’r prosiect cymunedol, yn cychwyn, cyn i’r gwaith ar y rhaglen artistig gychwyn yn y flwyddyn newydd.

Bydd cyfle i glywed mwy am hyn yn y cyfarfod cyhoeddus.

Ewch i wefan yr Eisteddfod am ragor o fanylion.