Bydd BAFTA Cymru yn anrhydeddu Mark Lewis Jones a Julie Gardner eleni.

Bydd Julie Gardner, cyn-Bennaeth Drama BBC Cymru a chyd-sylfaenydd Bad Wolf, yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig i’r Byd Teledu, a Mark Lewis Jones (The Crown a Gangs of London) fydd derbynnydd Gwobr Siân Phillips.

Gwobr Cyfraniad Arbennig i’r Byd Teledu BAFTA Cymru yw un o anrhydeddau mwya’r mudiad, a chaiff y wobr ei dyfarnu i unigolyn o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i’r byd teledu, ffilm neu gemau.

Yn gynnar yn ei gyrfa, cyd-gynhyrchodd Julie Gardner fersiwn fodern Andrew Davies o Othello, gafodd ei henwebu am wobr BAFTA, ac aeth yn ei blaen i ennill tair gwobr flaenllaw Gŵyl Ffilm Banff yn 2002 – Gwobr Rockie Banff, y Wobr Fawr, a Gwobr y Beirniaid Rhyngwladol.

Yn Bennaeth Drama BBC Cymru, cynhyrchodd adfywiad Doctor Who yn 2005, a daeth â’r sioe i Gymru ynghyd â Phil Collinson a Russell T. Davies, ac aeth y gyfres yn ei blaen i ennill y Wobr am Gyfres Ddrama yng Ngwobrau Teledu BAFTA 2006.

Yn 2006, cynhyrchodd Julie Gardner gyfresi dilynol o Doctor Who Russell T. Davies, sef Torchwood, a The Sarah Jane Adventures.

Yn Adran Ddrama BBC Cymru, goruchwyliodd nifer o gynyrchiadau annibynnol, gan gynnwys Life on Mars, Merlin, Ashes to Ashes, Stuart: A Life Backwards a Girl in A Café, enillodd wobr Emmy.

Yn 2009, symudodd i Los Angeles o’i chartref yng Nglyn-nedd i arwain BBC Worldwide Productions ac Adjacent Productions gyda Jane Tranter.

Cynhyrchodd y ddwy sawl cyfres gan gynnwys addasiad Americanaidd o Getting On ar gyfer HBO a Da Vinci’s Demons i Starz, gafodd ei lansio ganddyn nhw yn 2013, gan leoli’r cynhyrchiadau yn ne Cymru.

Julie Gardner oedd derbynnydd Gwobr Siân Phillips yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2013.

Lansiodd Julie Gardner a Jane Tranter gwmni Bad Wolf yn 2015, ac erbyn hyn, Julie sy’n rhedeg Bad Wolf America.

Yn 2020, cynhyrchodd hi I Hate Suzie gan Lucy Prebble a Billie Piper ar gyfer Bad Wolf, mewn cydweithrediad â Sky Studios.

Cafodd y rhaglen ei henwebu am Wobr Cyfres Ddrama yng Ngwobrau Teledu BAFTA 2021 ac, yn 2023, derbyniodd Wobr Urdd y Wasg Ddarlledu am y Gyfres Ddrama Fer Orau; Gwobr Deledu RTS am Awdur Drama a Gwobr Ysgolhaig Teledu am y Perfformiad Arweiniol Gorau mewn Comedi.

Cynhyrchodd Julie Gardner The Winter King y llynedd ar gyfer ITVX ac MGM+ a Red Eye ar gyfer ITV, a chafodd ei henwebu ar gyfer y Gwobrau Teledu Cenedlaethol eleni.

Yn yr Unol Daleithiau, cafodd cynhyrchiad cyntaf Bad Wolf America, Lady in the Lake, cyd-gynhyrchiad weithredol gyda Christopher Leggett a Layne Eskridge sy’n serennu Natalie Portman a Moses Ingram, ei lansio a chafodd ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Alma Har’el, ar Apple TV, gyda’r stiwdio Fifth Season.

Yn yr Unol Daleithiau, mae Julie Gardner yn datblygu prosiectau gyda Sony, Legendary, Skydance a Fifth Season.

Ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig, mae ’n gweithio ar gyfres ddilynol Doctor Who, The War Between The Land And The Sea, gafodd ei hysgrifennu gan Russell T Davies a Pete McTighe.

Mae hon yn gynhyrchiad Bad Wolf gyda BBC Studios.

Mae Julie Gardner hefyd yn paratoi ail dymor o Red Eye.

Mae Doctor Who wedi cael pump enwebiad ar gyfer Gwobrau BAFTA Cymru eleni.

“Mae fod yn dderbynnydd y wobr Gymreig flaenllaw yma’n meddwl y byd i mi, diolch BAFTA,” meddai Julie Gardner.

“O’r munud y cefais i swydd Pennaeth Drama BBC Cymru yn 2003, fy nghenhadaeth oedd dod â phrosiectau i Gymru.

“Mae sgiliau, angerdd, ymroddiad a moeseg gwaith pobol Cymru heb eu hail.”

Mark Lewis Jones

Yr actor Mark Lewis Jones, sydd wedi ymddangos mewn ffilmiau a dramâu wrth fodd y beirniaid yn ystod 38 mlynedd ei yrfa actio, fydd y ddeunawfed unigolyn i dderbyn Gwobr Siân Phillips yng Ngwobrau BAFTA Cymru.

Caiff Gwobr Siân Phillips ei chyflwyno i unigolyn o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fyd ffilm a/neu’r teledu.

Mae perfformiadau lu Mark yn cynnwys y cyfresi drama Cymreig Stella, Un Bore Mercher, a Dal y Mellt, y gyfres gyntaf yn y Gymraeg i ymddangos ar Netflix.

Mae’n enwog hefyd am raglenni sy’n adnabyddus ym mhedwar ban y byd fel The Crown, Gangs of London a Baby Reindeer.

Mae e hefyd yn un o sêr drama Men Up y BBC sydd wedi cael ei henwebu mewn chwe chategori yng Ngwobrau BAFTA Cymru eleni.

Ymhlith y rhai sydd wedi derbyn Gwobr Siân Phillips yn y gorffennol mae’r actores Rakie Ayola, y cyfarwyddwr Euros Lyn, yr actor Rhys Ifans, y llenor Russell T. Davies, yr actor Michael Sheen, yr actor Ioan Gruffudd a’r llenor/actores/cynhyrchydd Ruth Jones.

“Dw i wrth fy modd i gael fy anrhydeddu â’r wobr hon, diolch BAFTA Cymru,” meddai Mark Lewis Jones.

“Cefais fy ngeni a’m magu yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, ac o deulu heb unrhyw gysylltiad â’r celfyddydau na’r diwydiannau creadigol, ond roeddwn yn ffodus iawn i dderbyn cyfleoedd a chefnogaeth, felly dw i’n ddiolchgar dros ben.

“Dw i’n ofni na fyddai Mark Lewis Jones ifanc yn cael yr un cyfleoedd ag y cefais i.

“Y celfyddydau a diwylliant yw asgwrn cefn ein cymdeithas, ac maen nhw’n rhan annatod o hunaniaeth ein cenedl.

“Mae goblygiadau torri cyllid unrhyw sefydliadau a mentrau celfyddydol yn enbyd.

“Rwy’n teimlo’n arbennig o freintiedig i dderbyn y wobr hon yn enw rhywun sydd wedi dangos dewrder a dycnwch o’r fath drwy gydol ei gyrfa eithriadol, ac rwy’n gobeithio’n fawr y byddaf yn gallu defnyddio’r platfform hwn i helpu ac ysbrydoli eraill i wireddu eu breuddwydion.”

‘Unigolion o’r safon uchaf’

“Mae’r ddwy wobr yma’n mynd i unigolion o’r safon uchaf,” meddai Angharad Mair, cadeirydd BAFTA Cymru.

“Mae Cymru’n profi unwaith eto, nid yn unig bod gennym dalent anhygoel yng Nghymru, ond ein bod ni’n creu gwaith o’r radd flaenaf yma hefyd.

“Mae Mark yn actor dwyieithog gwych, sy’n gweithio ar draws y ddwy iaith ac sydd wedi gwneud cyfraniadau diwylliannol cyson.

“Yn yr un modd, mae Julie wedi gwneud cyfraniad enfawr yma ac yn rhyngwladol, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael anrhydeddu Mark a Julie ar Hydref 20.”