Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn lansio’u prosiect ymchwil LHDTC+ newydd, ‘Testunau’r Enfys’, heddiw (dydd Gwener, Medi 20).

Y gobaith yw y bydd y prosiect yn ysgogi academyddion i archwilio llenyddiaeth hanesyddol a chyfoes y Gymraeg am themâu LHDTC+.

Mewn datganiad, dywed y Coleg, sy’n ariannu’r prosiect, ei fod yn rhan o ymgyrch i geisio “cyfoethogi’r canon llenyddol LHDTC+” yn y Gymraeg.

Nod arall y prosiect ydy sicrhau bod academyddion ac ymarferwyr creadigol sydd â diddordeb mewn pynciau LHDTC+ yn medru dod at ei gilydd er mwyn “creu cymuned” ac adeiladu arbenigedd yn y maes.

Bydd cyfle iddyn nhw gyfarfod mewn gweithdy yn y Llyfrgell Genedlaethol heddiw er mwyn cynnal eu hymchwil a phori drwy’r archif.

Byddan nhw’n ceisio darganfod gweithiau llenyddol sydd wedi mynd yn angof neu sydd heb gael y sylw maen nhw’n eu haeddu hyd heddiw.

Yn ogystal, byddan nhw’n ceisio ailddehongli testunau eraill, a’u darllen drwy lens LHDTC+ newydd hefyd.

Y gweithiau llenyddol

“Un o’m hoff enghreifftiau yw cerdd am gyfeillgarwch rhwng dwy ferch o’r unfed ganrif ar bymtheg, sy’n cynnig dehongliadau newydd a diddorol o’i darllen hi drwy lens LHDTC+,” meddai Dr Cathryn Charnell-White, un o’r trefnwyr o Brifysgol Aberystwyth, sy’n arbenigo mewn llenyddiaeth menywod hanesyddol.

Ar Orffennaf 5 2025, bydd darganfyddiadau’r ymchwilwyr yn cael eu cyflwyno mewn cynhadledd arloesol yn y Llyfrgell Genedlaethol, a’r cyfan yn rhan o strategaeth gydraddoldeb ac amrywiaeth ehangach y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn ôl Emily Pemberton, Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth y Coleg, “mae ariannu a chefnogi’r prosiect yma yn bwysig ac yn cyd-fynd gyda strategaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth y Coleg i sicrhau bod addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn gynhwysol ac yn adlewyrchu profiadau’r gymuned gyfan”.

“Mae’r prosiect yma yn hynod o gyffrous gan y bydd yn creu ymchwil a chymuned newydd o ymchwilwyr yn y maes llenyddol LHDTC+ Cymraeg a fydd y cyfoethogi addysg myfyrwyr yn y pendraw,” meddai.

Mae cyfle i academyddion ac ymarferwyr creadigol fynegi’u diddordeb ar wefan y Coleg, ac mae gwahoddiad iddyn nhw fynychu’r gynhadledd y flwyddyn nesaf.