Mae Mark Lewis Jones yn dweud bod ennill Gwobr Siân Phillips gan BAFTA Cymru eleni’n sbardun iddo “gario ymlaen” i actio.

Ymhlith y cyfresi mae o wedi serennu ynddyn nhw dros y blynyddoedd diwethaf mae The CrownGame of Thrones, Men Up ac Un Bore Mercher.

Dywed ei bod hi’n “fraint llwyr” ennill gwobr sy’n dwyn enw Siân Phillips, un “sydd wedi cael gyrfa anhygoel”, a bod cael ei anrhydeddu gan BAFTA Cymru’n “beth lyfli”.

‘Y foment newidiodd fy mywyd’

Yn wreiddiol o Rosllanerchrugog ger Wrecsam, mae dyled Mark Lewis Jones yn fawr iawn i’w gyn-athrawes drama yn Ysgol Morgan Llwyd, Gwawr Dafis, meddai.

“Dw i’n gwerthfawrogi yn llwyr y bobol dw i wedi gweithio hefo nhw ar hyd y ffordd,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n gweld hwn fel cyfle i gario ymlaen beth dw i wedi bod yn ei wneud, ac mi fydd hi’n noson grêt.

“Mae hi’n deimlad neis iawn i gael y wobr yma.”

Yn ôl Mark Lewis Jones, Gwawr Dafis sy’n gyfrifol am y ffaith ei fod wedi cael gyrfa mor llwyddiannus fel actor.

“Tan mi oni’n 16, doedd gen i ddim syniad beth i’w wneud efo fy mywyd.

“Pan ofynnodd Gwawr imi fod yn un o sioeau’r ysgol, mi wnes i gytuno am ryw reswm!

“Dw i’n dod o Rhos, lle nad oes cyswllt o gwbl efo’r celfyddydau, felly mae’r ffaith fy mod i wedi cytuno i wneud y sioe wedi newid fy mywyd i’n llwyr.

“Hi ydy’r un sydd wedi cael y dylanwad mwyaf arna’ i pan o’n i’n ifanc.

“Y foment newidiodd fy mywyd oedd cytuno i wneud y sioe.”

Dylanwad y theatr

Datblygodd Mark Lewis Jones ei yrfa yn y celfyddydau drwy ymuno â Theatr Ieuenctid Clwyd a’r Urdd, cyn mynd yn ei flaen i astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.

Bu’n actio’n broffesiynol ers iddo adael y coleg yn 1986.

“Dwi’n hapus yn y ffordd wnaeth popeth weithio allan,” meddai.

“Yn y dyddiau pan wnes i ddechrau gweithio, doedd yna ddim Netflix na Sky na dim byd felly; roedd rhan fwya’r gwaith yn y theatr.

“Fy swydd gynta’ i oedd yn Theatr Clwyd yn chwarae rhan bach gyda chyfarwyddwraig o’r enw Annie Castledine, cyn gwneud theatr mewn addysg yn yr Wyddgrug, a gyda Cwmni Frân Wen.”

Dros y bymtheg mlynedd nesaf, roedd y rhan fwyaf o’i waith yn y theatr – o’r Royal Shakespeare i’r National Theatre yn Llundain – ac fe ddatblygodd ei yrfa’n sylweddol wedyn.

Mae’n “falch iawn” ei fod wedi gwneud cymaint yn y theatr ar ddechrau ei yrfa, meddai, gan fod hynny wedi cynnig “sylfaen i weithio” iddo.

Y Gymraeg ar Netflix yn ‘hollbwysig’

Fis Ebrill y llynedd, Dal y Mellt oedd y ddrama Gymraeg gyntaf erioed ar Netflix.

Serennodd Mark Lewis Jones fel y cymeriad Mici Ffin.

Daeth potensial y gyfres yn amlwg iawn iddo pan dderbyniodd y sgript am y tro cyntaf.

Roedd yna “deimlad da iawn” ar y set, meddai, gan ychwanegu ei fod yn falch iawn o’r sylw gafodd ei roi i’r gyfres gan Netflix.

Mae’n “hollbwysig” fod y Gymraeg yn cael ei chynrychioli ar raddfa mor fawr â Netflix, meddai.

“I gael cyfres lawn yn Gymraeg ar Netflix, mae hynny yn gwthio pethau ymlaen ynglŷn â chael gwaith Cymraeg, yn y Gymraeg, allan yno.

“Mae cael y wobr yma gan BAFTA yn gwneud i rywun edrych dros eu gyrfa nhw, a dw i’n gweld lot o waith Cymraeg dw i’n browd iawn ohono. Y mwyaf rydan ni’n gallu’i gael, y gorau.

“Mae yna lot o waith da iawn sydd wedi cael ei wneud yng Nghymru, yn yr iaith Gymraeg, ac mae hi’n hollbwysig ein bod ni’n eu cael nhw allan yn y byd.”

Poblogrwydd Baby Reindeer

Fe ymddangosodd Mark Lewis Jones fel y cymeriad Gerry yn y gyfres boblogaidd Baby Reindeer eleni.

Yn ddiweddar iawn, cipiodd y gyfres bedwar tlws yn seremoni’r Emmys yn Los Angeles.

Er ei fod wedi hanner disgwyl i’r gyfres fod yn llwyddiannus, doedd o ddim wedi rhagweld cymaint o sylw iddi.

“Mi wnes i rili mwynhau ei gwneud hi,” meddai.

“Mi oedd hi’n gyfres wahanol mewn ffordd, achos roedd y stori am yr actor oedd yn chwarae’r prif gymeriad, felly roedd hynny’n rhoi slant gwahanol arni.”

The Crown

Cyfres hynod boblogaidd arall y bu’n rhan ohoni yw The Crown.

Roedd y bennod ‘Tywysog Cymru’ yn dilyn hanes ymdrech Tywysog Charles, Brenin Lloegr erbyn hyn, i ddysgu’r Gymraeg cyn ei Arwisgo yn 1969, gyda Mark Lewis Jones yn portreadu’r gwleidydd ac ysgolhaig Edward (Tedi) Millward.

“Roedd hi’n bennod mor lyfli, ac roedd teimlad ei bod hi’n bennod stand alone mewn ffordd,” meddai.

“Roedd y berthynas rhwng y Tywysog Charles a Tedi Milward yn un mor dda, ac wedi newid yn ystod y bennod.

“Mae’r bennod honno wedi bod yn boblogaidd iawn, dw i’n meddwl.”

Uchafbwynt?

Ac yntau wedi cael gyrfa mor ddisglair, dydy dewis uchafbwynt ddim yn dod yn hawdd i Mark Lewis Jones.

Ond mae’r gyfres The Bench, gafodd ei hysgrifennu gan Catherine Tregenna, yn sefyll allan gyda’r goreuon.

“Dw i wastad yn meddwl bod hwnna wedi rhoi cyfle i mi weithio dros gyfnod hir o flaen y camera,” meddai.

“Wnes i ddysgu gymaint.

“Mi wnes i allu gwneud cymaint dros ddwy flynedd.”

Mae’n edrych ymlaen bellach at weld yr ymateb i’r gyfres Out There, fydd yn cael ei darlledu ar ITV ddiwedd y flwyddyn hon neu ddechrau’r flwyddyn nesaf.

BAFTA Cymru yn gwobrwyo Mark Lewis Jones a Julie Gardner

Mark Lewis Jones fydd yn derbyn Gwobr Siân Phillips, tra mai Julie Gardner sydd wedi cipio gwobr Cyfraniad Arbennig i’r Byd Teledu