I ddathlu Gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi, sy’n cael ei chynnal ddiwedd mis Hydref, mae Golwg360 wedi bod yn holi rhai o wynebau adnabyddus y sîn gerddoriaeth yng Nghymru am eu hoff ganeuon. Y tro yma, y cyflwynydd, DJ ac awdur Huw Stephens sy’n ateb cwestiynau Golwg360.


Pa gân neu ganeuon sy’n eich gwneud chi’n hapus, a pham?

Bob Delyn a’r Ebillion – Trên Bach y Sgwarnogod. Mae ‘ne ddrama yn y gan, ac mae’n lot o hwyl. Mae wastad wedi dal fy nychymyg.

Pa gân neu ganeuon sy’n dod â deigryn i’r llygad, a pham?

Siân James – Gweld Sêr. Arwyn Groe sgwennodd y geiriau, ac mae llais Siân James yn odidog yma. Mae’n gân am adre, am gymuned, am bobl. A bob tro dw i’n ei chlywed mae’n neud fi yn ddagreuol.

Pa gân neu ganeuon sy’n gwneud i chi eisiau dawnsio?

Unrhyw beth hip hop/R’n’B. Ond dw i ddim yn dawnsio yn aml.

Os oeddech chi’n sownd ar ynys bell ac yn gorfod gwrando ar un albwm ar lŵp, beth fyddai hi a pham?

The Beatles – White Album. Albym hir i fwynhau ar yr ynys.

Pa gân fyddech chi’n hoffi fod wedi’i hysgrifennu a pham?

Datblygu – Am. Mae’n berffaith!

Gwyl Lleisiau Eraill Aberteifi
Llun: Jennie Caldwell

Bydd 5ed ŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi yn cael ei chynnal yn y dref dros benwythnos 31 Hydref a 2 Tachwedd.

Bydd dros 80 o setiau byw mewn lleoliadau ar draws Aberteifi, o hip-hop i werin, roc i R&B, a phopeth yn y canol.

Rhai o’r artistiaid o Gymru fydd yn cymryd rhan yn Y Llwybr Cerdd yw Cynefin, Lleuwen, Melin Melyn, Mr Phormula, Sage Todz, Tara Bandito, a The Gentle Good, ynghyd a llu o artistiaid eraill.

Mae’r sesiynau Clebran yn dychwelyd i Theatr Mwldan, lle bydd siaradwyr blaenllaw yn dod ynghyd i rannu syniadau, ysgogi sgwrs ac archwilio safbwyntiau newydd ar rai o faterion mawr y dydd. Yn eu plith mae Carwyn Graves, Carys Eleri, Delyth Jewell, Lowri Cunnington Wynn, Laura McAllister, Noel Mooney, a’r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost.

Elfen newydd i’r ŵyl eleni yw ‘Clebran ar y Llwybr’ sef cyfres o sgyrsiau agos-atoch gyda rhai o artistiaid Y Llwybr Cerdd a fydd yn digwydd yng Nghapel a Festri Bethania. Bydd y cerddor Lleuwen yn siarad â’r cerddor a’r cyflwynydd radio Georgia Ruth yn un o’r sgyrsiau hyn ac, wythnos nesaf, Lleuwen fydd yn ateb cwestiynau Golwg360 am ei hoff ganeuon.

Am fanylion llawn am yr ŵyl ewch i’r wefan.