Mae gŵyl yn y gogledd yn galw am gelf er mwyn codi arian i helpu menywod yn Gaza.
Er mwyn codi arian at ymgyrch argyfwng Women For Women i fenywod ym Mhalesteina, mae Gŵyl y Ferch yn gofyn i artistiaid anfon eu fersiwn eu hunain o’u logo atyn nhw.
Bydd y darnau o gelf yn cael eu defnyddio i wneud printiau a chrysau-t, gyda’r elw’n mynd tuag at waith yr elusen.
Ers 2019, mae Gŵyl y Ferch wedi bod yn cynnal ymgyrchoedd celf i godi arian tuag at elusennau sy’n helpu menywod.
Fel arfer maen nhw’n gweithio gydag elusennau lleol, a dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gasglu arian tuag at achos rhyngwladol.
‘Dyletswydd i drio ymgyrchu’
Mae Women For Women yn cefnogi menywod sy’n cael eu heffeithio gan wrthdaro.
Ar hyn o bryd, maen nhw’n gweithio gyda Wefaq Society for Women and Child Care yn Gaza i ddarparu prydau poeth, dillad gaeaf ac esgidiau, blancedi a matresi, nwyddau hylendid a llinellau cymorth ar gyfer cwnsela trawma.
Ers i’r rhyfel rhwng Hamas ac Israel ddechrau bron i flwyddyn yn ôl, mae bron i filiwn o fenywod a merched wedi cael eu dadleoli yn Gaza.
Hyd at fis Mai, roedd data’r Cenhedloedd Unedig yn dangos bod 34,735 o bobol wedi cael eu lladd yn Gaza, gan gynnwys dros 9,500 o fenywod a 14,500 o blant.
Fe wnaeth Ffion Pritchard sefydlu Gŵyl y Ferch yn y gogledd gyda’i ffrind Esme Livingston yn 2019.
“Y syniad ydy ein bod ni’n casglu fersiynau o’r logo rydyn ni wedi’i addasu i gynrychioli heddwch, a’n bod ni’n hel fersiynau o’r darlun yna gan wahanol artistiaid ac wedyn creu printiau, crysau-t a bob mathau o bethau, a defnyddio’r arian yna i gyfrannu i ymgyrch argyfwng i ferched Gaza gan Women For Women,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n amlwg ein bod ni i gyd yn dilyn y newyddion a pha mor drychinebus ydy beth sy’n digwydd yna.
“Dw i’n meddwl bod gennym ni i gyd ddyletswydd i drio gwneud rhywbeth i ymgyrchu, i helpu.
“Mae Women For Women yn elusen anhygoel sy’n helpu merched mewn ardaloedd sydd wedi’u heffeithio gan wrthdaro, yn rhoi bob mathau o gymorth.
“Maen nhw’n elusen ffantastig, ac rydyn ni’n hapus iawn i fod yn hel arian iddyn nhw, ac yn gobeithio y gwneith o wneud rhywfaint o wahaniaeth.”
‘Gwaith anhygoel’
Er eu bod nhw’n gweithredu’n bennaf yn ardal Bangor a Chaernarfon, drwy ddigwyddiadau megis arddangosiadau celf, nosweithiau ffilm a gigs, mae Gŵyl y Ferch wedi cynnal digwyddiadau yng Nghaerdydd ac ar-lein cyn heddiw.
Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi pedair cyfrol o farddoniaeth ac un llyfr lliwio.
Mae’r alwad am waith celf wedi cael ei hymestyn am ychydig fisoedd, ac mae croeso i unrhyw un yrru darn o waith sydd wedi’i ysbrydoli gan eu logo at gwylyferch@gmail.com.
“Rydyn ni wedi cael gwaith anhygoel i mewn, ond dw i’n meddwl y bydd hi’n dda cael ychydig bach mwy,” meddai Ffion Pritchard.
“Gobeithio drwy gael y gair allan y gwnawn ni gael mwy o waith i mewn.
“Mae yna bob math o ymatebion; mae rhai wedi bod yn fersiynau eu hunain o’r logo, rhai’n waith sydd wedi’i ysbrydoli gan y logo; amrywiol iawn ond lot o waith neis.”