Mae “pob rhan” o’r Llyfrgell Genedlaethol wedi cael eu heffeithio gan doriadau i gyllid y sefydliad ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, yn ôl y Prif Weithredwr.

Fe fu Rhodri Llwyd Morgan gerbron Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol fore heddiw (dydd Iau, Medi 26), ar ôl i’r sefydliad wynebu toriad o £3m i’w grant.

Gan eu bod nhw’n parhau i wynebu diffyg o £1.5m bob blwyddyn, mae disgwyl i’r bwlch dyfu i £4.5m erbyn diwedd mis Mawrth nesaf.

Pan gafodd y toriadau eu cyhoeddi, dywedodd Vaughan Gething, y Prif Weinidog ar y pryd, fod toriadau’n rhan o “benderfyniad anodd”, ond fod rhaid blaenoriaethu cefnogi’r Gwasanaeth Iechyd.

Wrth siarad ag aelodau’r pwyllgor, dywedodd Rhodri Llwyd Morgan fod deunaw o staff wedi gadael o’u gwirfodd eisoes, ac fe fydd chwech arall yn gadael yn fuan.

Allan o’r 24 swydd sydd wedi’u colli, neu sydd am gael eu colli, mae chwech yn swyddi corfforaethol, tair yn ymwneud ag ymgysylltu ac addysg, a’r pymtheg sy’n weddill yn ymwneud ag archifau, isadeiledd a digido.

‘Bylchau amlwg o safbwynt gwybodaeth ac arbenigedd’

Yn ôl Rhodri Llwyd Morgan, fe fydd colli’r swyddi’n golygu colli gwybodaeth ac arbenigedd hefyd.

“Yn anffodus, mae pob rhan o brif weithgareddau’r llyfrgell yn cael eu heffeithio,” meddai Rhodri Llwyd Morgan wrth ymateb i gwestiwn gan Heledd Fychan o Blaid Cymru.

“Gyda 24 o bobol yn gadael, mae bylchau amlwg yn mynd i ddigwydd o safbwynt gwybodaeth ac arbenigedd.

“Ac rydyn ni wedi ceisio amddiffyn y gwasanaethau rheng flaen, tra hefyd yn sicrhau bod lles y staff a llwyth gwaith yn cael y sylw dyledus.”

Mae’r 24 swydd gyfwerth â thua 10% o holl aelodau staff y Llyfrgell Genedlaethol.

Dywed Rhodri Llwyd Morgan fod Cynllun Strategol newydd yn cael ei baratoi i helpu’r rhaglen o newid i weithredoedd y llyfrgell.

£1.9m i “atgyweirio’r to”, ond angen £90m

Er bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi’i lleoli yn Aberystwyth, mae’r sefydliad ar wasgar drwy Gymru gyfan hefyd.

Mae gan y sefydliad saith safle i gyd, ac mae gwerth £90m o waith adnewyddu i’w gwblhau ar draws y safleoedd.

Daeth cadarnhad fod £1.9m wedi cael ei roi gan Lywodraeth Cymru i helpu â gwaith adnewyddu to’r prif adeilad yn Aberystwyth, a bod disgwyl i’r gwaith cael ei gwblhau erbyn haf nesaf.

Dywed Rhodri Llwyd Morgan fod yr arian yn angenrheidiol oherwydd y difrod gafodd ei achosi gan Storm Kathleen i doeon Stac Llyfrau 1 a 2.

“Does ddim gwaith sylweddol wedi digwydd i atgyweirio’r to yn y mannau hynny ers adeiladu’r rhannau yna o’r adeilad tua 90 mlynedd yn ôl,” meddai wrth y pwyllgor.

“Felly, rydyn ni’n falch o gael cyhoeddiad fis Gorffennaf bod £1.9m ar gael i fynd i’r afael ag atgyweirio’r to.”