Mae cyfarwyddwr opera uchel ei pharch wedi rhybuddio ei bod hi’n anochel y byddai sêr Cymreig yn cael eu colli pe bai rhagor o doriadau i Opera Cenedlaethol Cymru.

Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant y Senedd, dywedodd Adele Thomas, darpar gyd-Gyfarwyddwr Cyffredinol Opera Cenedlaethol Cymru, fod cefnogaeth ar gyfer llawr gwlad yn creu llwybr tuag brig y diwydiant.

“Fydd neb yn yr arfaeth rhagor,” rhybuddia, wrth i ddiwylliant wynebu’r toriadau mwyaf yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25.

Mae hi’n galw am fuddsoddiad sylweddol ac ymrwymiad hirdymor i’r celfyddydau.

“Ryw ddiwrnod, byddwn ni’n dihuno a fydd dim talent ar ôl,” meddai.

‘Pryder’

Mae Christopher Barron wedi disgrifio’r sefyllfa bresennol fel storm berffaith, gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru’n torri eu rhaglenni iau a Neuadd Dewi Sant yn cau ei drysau.

“Yn nhermau’r system gerddorol yng Nghymru, mae’n lleihau ar hyn o bryd ac mae hynny’n bryder gwirioneddol,” meddai cyfarwyddwr cyffredinol dros dro Opera Cenedlaethol Cymru, fydd yn trosglwyddo i Adele Thomas y mis yma.

Pan gafodd ei holi faint fyddai ei angen ar Opera Cenedlaethol Cymru i oroesi, dywedodd wrth y pwyllgor fod gofyn cael £10m i £12m y flwyddyn i gynnal cwmni opera.

“Rydyn ni’n newid o fod yn gwmni â throsiant o £16m y flwyddyn i fod yn un fydd â throsiant o ryw £11.5m,” meddai.

Eglurodd fod Opera Cenedlaethol Cymru’n cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Arts Council England gan fod y cwmni’n teithio dros y ffin.

Fe wnaeth e groesawu £1.5m ychwanegol i Gyngor Celfyddydau Cymru, gan ddweud bod Opera Cenedlaethol Cymru’n gwneud cais am swm sylweddol, ond fe rybuddiodd nad yw’r cyllid ar gael dro ar ôl tro.

‘Perygl’

Dywedodd Christopher Barron wrth y cyfarfod ddoe (dydd Iau, Medi 26) fod tîm Opera Cenedlaethol wedi crebachu 18%, o 220 i ryw 180 erbyn heddiw.

“Rydyn ni yng nghanol proses o ddiswyddiadau gorfodol ar hyn o bryd… byddwn ni’n colli rhagor o bobol ym mis Hydref.”

Wrth rybuddio am doriadau “sylfaenol” drwyddi draw, eglurodd fod angen i Opera Cenedlaethol ddod o hyd i ychydig dros £4m mewn arbedion, a’r rhan fwyaf ohono erbyn haf nesaf.

“Mae goroesi yn y fantol go iawn, oherwydd mae’n golygu torri’r cyllid i’r fath lefel nes nad oes lle i wneud camgymeriadau,” meddai Adele Thomas.

“Gallai unrhyw wall o unrhyw gyfeiriad roi’r cwmni mewn perygl go iawn.”

‘Bygythiad’

Awgrymodd Adele Thomas fod y cwmni’n galw allan am rywfaint o sefydlogrwydd.

Cododd hi bryderon hefyd am amodau sydd ynghlwm wrth gyllid trawsnewid Arts Council England.

Cytunodd Christopher Barron fod enw da rhyngwladol, ansawdd a datblygu talent i gyd yn y fantol, gan ddweud mai Opera Cenedlaethol Cymru yw’r cwmni opera mwyaf adnabyddus ymhlith pobol tu allan i wledydd Prydain.

Dywedodd fod angen i Opera Cenedlaethol Cymru ddod o hyd i £1m yn rhagor o arbedion erbyn 2026-27, “felly mae yna ddeunaw mis arall o newidiadau eithaf llym”.

“Os ydyn ni’n gostwng ein gweithgarwch lawer iawn mwy, yn enwedig yn Lloegr, dw i’n gweld hynny’n fygythiad i’r cwmni,” meddai wrth aelodau’r pwyllgor.

Fe wnaeth Christopher Barron, oedd wedi astudio yn Abertawe yn y 1970au, annog Cymru i “fabwysiadu” y cwmni opera, oedd wedi derbyn gostyngiad o 35% yn ei gyllid gan Arts Council England eleni.