Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cymorth ariannol i hybiau cerddoriaeth ar lawr gwlad yn y ddinas.

Mae’r ŵyl newydd, sy’n cychwyn heddiw (dydd Gwener, Medi 27), yn ymgynnull cerddorion arloesol am dair wythnos o berfformiadau ar hyd a lled y brifddinas, ac yn cyfuno digwyddiadau sydd wedi’u cynnal yno yn y gorffennol, megis Sŵn, Llais, a’r Wobr Gerddoriaeth Gymraeg.

Y gobaith yw y bydd yn “gatalydd i newid go iawn” yn y diwydiant cerddoriaeth ehangach, yn ogystal â chynnig hwb i’r diwylliant cerddorol yng Nghaerdydd.

Mae lleoliadau bychain llawr gwlad yn rhan bwysig o’r diwylliant hwn, gan gynnwys Porter’s, the Moon, a Depot, fydd i gyd yn cynnal perfformiadau yn ystod yr ŵyl.

Bydd y gronfa ariannol newydd yn cynnig grantiau o hyd at £10,000 mewn cyfalaf i hybiau bychain Caerdydd ar gyfer gwelliannau i’r lleoliadau.

‘Goresgyn heriau’

“Mae’r gefnogaeth gaiff ei chynnig gan y gronfa hon, ochr yn ochr â’r gwaith arall sy’n cael ei gyflawni drwy ein strategaeth gerddoriaeth – gan gynnwys Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd newydd, ein cefnogaeth i ailddatblygu Clwb Ifor Bach, cymorth wnaethon ni ei roi i Porters a Sustainable Studios pan oedd angen iddyn nhw ddod o hyd i gartrefi newydd, a’n cynllun datblygu talent newydd Little Gigs – i gyd yn anelu at helpu i sicrhau eu bod yn gallu goresgyn yr heriau sy’n wynebu lleoliadau ledled y Deyrnas Unedig a pharhau i ffynnu wrth galon sîn gerddoriaeth Caerdydd,” meddai’r Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd a chadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd.

Mae’r gronfa wedi’i chefnogi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, hefyd, ac mae’r ŵyl yn gobeithio denu 20,000 o bobol i’r brifddinas dros y tair wythnos.

Ymhlith y cerddorion fydd yn perfformio yn yr ŵyl eleni mae English Teacher, enillwyr Gwobr Mercury 2024; yr ensemble lleisiol Americanaidd, Sweet Honey in the Rock; a’r band Cymraeg, Mellt.

Bydd gweithdai diwydiannol a chynadleddau technoleg sain yn cael eu cynnal drwy gydol yr ŵyl hefyd.