Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod perthynas Cymru a Birmingham, Alabama “yn mynd o nerth i nerth”, wedi i griw o gynrychiolwyr o’r ddinas Americanaidd fod yn ymweld â Chymru dros yr wythnos ddiwethaf.
Mae’r ymweliad ar sail Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol, gafodd ei lofnodi llynedd, er mwyn cydnabod y cysylltiad hanesyddol sydd wedi bod rhwng Cymru a’r ddinas yn Ne Eithaf yr Unol Daleithiau.
Dechreuodd y berthynas yn 1963, yn ystod cyfnod y mudiad hawliau sifil.
Ar Fedi 15 y flwyddyn honno, cafodd Eglwys y Bedyddwyr, sef eglwys i’r gymuned ddu yn Alabama, ei bomio mewn ymosodiad brawychol gan y Ku Klux Klan.
Cafodd pedair merch ysgol eu lladd yn sgil yr ymosodiad tra eu bod nhw’n mynd i’r Ysgol Sul, a chafodd waliau a ffenestri gwydr yr eglwys eu difrodi’n ddifrifol.
Wedi iddo glywed am farwolaethau’r merched, penderfynodd John Petts, arlunydd gwydr lliw o Lansteffan, ei fod am geisio codi arian i dalu am ffenest lliw newydd i’r eglwys.
Ar ôl gofyn am gyfraniadau yn y Western Mail, a mynnu mai dim ond pobol gyffredin yn cynnig hanner coron ar y mwyaf yn hytrach nag un person cyfoethog yn cynnig un taliad mawr ddylai helpu i dalu, fe dderbyniodd dros £900 o bob cwr o Gymru o fewn ychydig ddyddiau.
Pan ddatgelodd e’r cynllun dros delegram i weinidog yr eglwys, daeth diolch mawr am mai “Cymru oedd yr unig wlad i gynnig cymorth uniongyrchol a materol”.
Dyluniodd John Petts y ffenest newydd, sy’n portreadu Iesu fel dyn du ac yn dangos ei ddioddefaint ar y groes, a chafodd ei chyflwyno i Eglwys y Bedyddwyr yn 1965.
Ar waelod y ffenestr mae’r arysgrif “Rhoddwyd gan Bobl Cymru”.
Mae’r eglwys yn cyfeirio at y ffenest fel y ‘Wales Window’ hyd heddiw.
Cytundeb Cyfeillgarwch
Y llynedd, i goffáu 60 mlynedd ers y digwyddiad, cafodd y Cytundeb Cyfeillgarwch ei lofnodi.
Nod y Cytundeb ydy hyrwyddo masnach a meithrin cydweithrediad rhwng Cymru a’r ddinas yn y celfyddydau, y gwyddorau, gofal iechyd ac addysg.
Yn ogystal, er cof am y pedair merch fu farw, cyflwynodd Llywodraeth Cymru bedair coeden i’w plannu ym Mharc Kelly Ingram yn ymyl safle Eglwys y Bedyddwyr.
Eleni, daeth cynrychiolwyr o’r ddinas i Gymru dan arweiniad Birmingham Sister Cities, corff sy’n cynnal cysylltiadau’r ddinas gyda lleoliadau ar draws y byd sydd ag arwyddocâd hanesyddol arbennig.
Ymhlith yr ymwelwyr mae chwiorydd y pedair fu farw, gweinidog yr eglwys, unigolyn oedd yn ymgyrchu dros hawliau sifil pan oedd yn blentyn, a mawrion byd busnes a gwleidyddiaeth y ddinas.
‘Undod’
Dywed Sarah Collins Rudolph, un o’r ymwelwyr oedd wedi goroesi’r ymosodiad yn 1963, ei bod hi’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru ac i Birmingham Sister Cities am ei helpu i “gofio’r gorffennol wrth i ni adeiladu dyfodol mwy disglair”.
“Mae’r cwlwm rhwng Birmingham a Chymru wedi golygu cymaint i mi a sawl un arall gafodd eu heffeithio ar y diwrnod ofnadwy hwnnw yn 1963,” meddai.
“Dangosodd rhodd y Wales Window i ni fod pobol yr ochr draw i’r môr yn meddwl amdanom yn ein poen ac yn credu mewn dyfodol o obaith ac undod.
“Nawr, wrth sefyll yma heddiw, rwy’n cael yr un ymdeimlad o undod, gan wybod fod ein cyfeillgarwch yn dal i fynd o nerth i nerth.”
Yn ystod yr ymweliad, cyflwynodd y Prif Weinidog Eluned Morgan a’r ymwelwyr o America Sêl Dinas Birmingham i ddisgyblion un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru yn Nhre-biwt, Caerdydd.
Mae Ysgol Gynradd St. Mary the Virgin yn rhan o rwydwaith o ‘ysgolion lloches’ yng Nghymru.
Yn ystod yr ymgyrch elusennol yn 1963, fe wnaeth llun o blant Bae Teigr yn cyfrannu eu harian poced at dalu am y ffenest ymddangos yn y Western Mail.
Cafodd y sêl ei roi’n anrheg gan faer dinas Birmingham.
‘Cwlwm’
“Mae’n bleser croesawu’r cynrychiolwyr o Birmingham Alabama i Gymru yr wythnos hon,” meddai Eluned Morgan.
“Mae’n amlwg bod y cwlwm rhyngom wedi cryfhau dros amser ac yn ffynnu heddiw, gan roi cyfleoedd pellach i ni gydweithio.
“Rwy’n falch bod pobol Cymru wedi dod ynghyd ac wedi estyn allan at gymuned Birmingham yn eu dyddiau tywyllaf, gan gymryd camau yn erbyn hiliaeth a chynnig rhodd gwirioneddol a symbolaidd o undod a heddwch.
“Mae’r Wales Window wedi bod yn sylfaen i’n cyfeillgarwch, a bydd yn ein hatgoffa o undod a gobaith am genedlaethau i ddod.”