Mae’n bwysig sicrhau bod gan bobol ifanc â phrofiad o fod mewn gofal fynediad at gymorth iechyd meddwl i’w helpu i “lwyddo mewn bywyd”, yn ôl Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru.

Er mwyn dysgu mwy am y cymorth iechyd meddwl sydd yn cael ei ddarparu i bobol ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, aeth Sarah Murphy a Dawn Bowden, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, i weld Fy Nhîm Cefnogol ym Mhont-y-pŵl.

Mae’r rhaglen Fy Nhîm Cefnogol wedi’i leoli yn hen Ysgol Gynradd Victoria Village, ac mae’n cynnig gwasanaeth iechyd meddwl arbenigol i bobol ifanc hyd at 18 oed.

Nod y rhaglen yw “sicrhau bod plant a phobol ifanc, a’u rhwydweithiau cymorth, yn cael y cyfle gorau posibl i lwyddo drwy ystod o waith seicolegol uniongyrchol a dull system gyfan o ymdrin â gofal”.

Cyn hyn, mae’r rhaglen wedi elwa ar gyllid dros £1.4m gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru.

Cymorth iechyd meddwl yn “hanfodol”

“Mae’r cymorth iechyd meddwl yma’n hanfodol er mwyn sicrhau bod pobol ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i lwyddo mewn bywyd,” meddai Sarah Murphy yn dilyn yr ymweliad.

“Mae Fy Nhîm Cefnogol yn hollbwysig wrth roi cymorth therapiwtig fydd yn gwella eu hiechyd meddwl a’u llesiant.”

Ychwanega’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Dawn Bowden fod angen “sicrhau bod plant a phobol ifanc sy’n derbyn gofal, ar gyrion gofal ac mewn gofal maeth yn cael y cymorth cywir i fyw bywydau sefydlog”.

“Drwy raglenni fel Fy Nhîm Cefnogol, sy’n dod ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau addysgol at ei gilydd, gallwn sicrhau bod y sylfeini ar waith i gyflawni hyn,” meddai.

‘Dim gair drwg i’w ddweud’

“Pan mae hi’n dod draw, mae ganddi ei chwpan ei hun fel aelod o’r teulu,” meddai un rhiant am ymarferydd therapiwtig arweiniol o Fy Nhîm Cefnogol.

“Rydyn ni’n siarad am lawer o bethau, ond dyw hi byth yn beirniadu.

“Mae hi’n un dda am wrando, a does gen i ddim gair drwg i’w ddweud amdani.

“Byddwn i wedi hoffi cael gwasanaeth fel hi pan oeddwn i’n blentyn.

“Mae MyST wedi gwneud cymaint ar gyfer fy nwy ferch.”