Gwledd o gerddoriaeth ynghanol y brifddinas dros gyfnod o dair wythnos – dyna addewid trefnwyr Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd oedd yn dechrau ddoe (dydd Gwener, 27 Medi) hyd at 20 Hydref.
Mae’r ŵyl, sy’n cael ei lansio eleni, yn cynnig gigs, pop-yps, a pherfformiadau mewn lleoliadau ar draws y ddinas gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Llandaf, Canolfan Mileniwm Cymru, Y Neuadd Fawr, Tramshed, a Chlwb Ifor Bach, yn ogystal â strydoedd Caerdydd.
Yn ôl y trefnwyr, bydd yr ŵyl yn “torri tir newydd” gyda’r bwriad o “herio, cyffroi ac ysbrydoli ffans ar draws cenedlaethau a genres, a darparu llwyfannau ac arddangosfeydd ar gyfer syniadau, synau a chydweithrediadau radical”.
Y nod ydy denu dros 20,000 o bobol, gan ddod â thalent ryngwladol a lleol ynghyd. Ymhlith y lein-yp mae Georgia Ruth, Gwen Siôn, Sage Todz, Adwaith, Charlotte Church, HMS Morys, Dom & Lloyd, Lleuwen, Rogue Jones, N’Famady Kouyate, ynghyd ag enwau rhyngwladol Leftfield x Orbital, a Lauryn Hill & The Fugees.
Mae gŵyl Sŵn a Llais, a’r Wobr Gerddoriaeth Gymraeg bellach yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.