Mewn rhaglen arbennig ar S4C nos Sul (Medi 29, 9 o’r gloch), cawn weld rhai o wynebau mwyaf adnabyddus y byd perfformio yng Nghymru yn talu teyrnged i’r diweddar Dewi ‘Pws’ Morris.

Bu farw Dewi ‘Pws’ Morris ar Awst 22 eleni, ac mae wedi’i ddisgrifio gan S4C fel “cymeriad unigryw ac yn berfformiwr wnaeth cyfraniad aruthrol i ddiwylliant Cymraeg am dros hanner can mlynedd”.

Yn ystod y rhaglen Cofio Dewi Pws, bydd rhai o’i gyfeillion agosaf, gan gynnwys Emyr Wyn, Dafydd Iwan a Caryl Parry Jones yn adrodd atgofion sydd ganddyn nhw o’r actor, canwr a diddanwr o Dreboeth yn Abertawe.

“Alla’i byth ddychmygu bod e wedi mynd, achos i fi nath Dewi Pws byth dyfu lan, heb sôn am ein gadael ni,” meddai’r darlledwr Huw Llywelyn Davies.

“Byddai’n gweld ei eisiau fe yn fawr iawn.”

Diddanwr o fri

Llwyddodd Dewi Pws i ddiddanu cenedlaethau o Gymry, gan gynnwys yn ei rôl fel cymeriad Y Brenin Ri yn Nia Ben Aur, fel un o gymeriadau cyntaf Pobol y Cwm, Wayne Harries, ac fel aelod o’r ffilm gomedi Grand Slam.

Roedd hefyd yn aelod o’r bandiau blaenllaw Y Tebot Piws ac Edward H Dafis, ac fe ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1971 gyda’r gân adnabyddus ‘Nwy yn y Nen’.

Wrth gofio am ei gyd-aelod yn y band Edward H Dafis, dywedodd Cleif Harpwood fod “Dewi yn un o’r bobl yna y’ch chi ’mond yn dod ar eu traws nhw unwaith falle yn eich bywyd”.

“Fydda i’n ei gofio fe fel cyfaill, fel brawd… bydda i’n gweld ei eisiau fe yn fawr iawn.”

Fel un angerddol iawn dros ei wlad, fe wnaeth Dewi Pws “gyfraniad enfawr i Gymru a Chymreictod gan ymgyrchu’n gyson dros yr iaith”.

“Roedd ei greadigrwydd e fel bardd, fel cerddor, fel actor i gyd wedi gwreiddio yn y gwleidyddiaeth Cymreig yna a’i fod e’n caru Cymru, ishe dyfodol i Gymru ac yn casáu anghyfiawnder. Ond yn gwneud hyn i gyd mewn ffordd ysgafn gyda gwên ar ei wyneb,” meddai Sharon Morgan, fu’n cyd-actio â fe droeon.

Cofio Dewi Pws: “Anodd meddwl amdano fe heb wenu”

Bu farw’r cerddor ac actor Dewi ‘Pws’ Morris yn 76 oed yn dilyn salwch byr