Bydd digrifwr sy’n hanner Cymro a hanner Sbaenwr yn cyflwyno sioe gomedi yn Gymraeg wrth ymddangos yn y gyfres deledu Iaith Ar Daith ar S4C nos Sul (Medi 29, 8 o’r gloch).
Yn mentora Ignacio Lopez mae Tudur Owen, a’r her fydd perfformio gig yn Gymraeg ym Machynlleth.
Bydd y ddau yn teithio i rai o’r llefydd mae Ignacio Lopez wedi perfformio ynddyn nhw dros y blynyddoedd, gan gynnwys Caernarfon, Bangor a Bae Colwyn, ond mae’n dweud ei fod yn edrych ymlaen at weld y llefydd tu hwnt i’r lleoliadau comedi y tro hwn.
“Es i i’r gogledd a theithio i lawr,” meddai wrth golwg360.
“Fe wnaethon nhw ofyn a oedd unrhyw lefydd sy’n arwyddocaol i fi.
“Roeddwn i’n teithio i Fae Colwyn, Bangor a Chaernarfon pan ddechreuais i, ond wnes i ddim gweld y llefydd yn iawn.
“Fel digrifwr, rydych chi’n cyrraedd yn y nos, yn perfformio, mae popeth yn dywyll, rydych chi’n mynd i’r gwely ac yn codi yn y bore ac yn mynd yn syth allan.
“Dim ond ar drafnidiaeth gyhoeddus rydych chi’n gweld y llefydd hyn, felly y tro hwn dw i’n cael eu gweld nhw’n iawn.
“A pha well dywysydd na Tudur Owen i’w dangos nhw i fi ac i adrodd straeon amdanyn nhw?!”
Teithio gyda Tudur
Fe fu Ignacio Lopez a Tudur Owen yn ffrindiau agos ers blynyddoedd bellach, ac maen nhw wedi hen arfer â theithio drwy Gymru a Lloegr gyda’i gilydd.
“Rydyn ni wedi gwneud gigs gwych gyda’n gilydd, ac rydyn ni wedi gwneud gigs ofnadwy gyda’n gilydd!” meddai.
“Rydyn ni wedi gwneud y cyfan, felly dw i’n credu mai fe yw’r mentor perffaith i fi.
“Rydyn ni wedi cael amserau da ac amserau drwg.
“Fe wnes i gig yn y Tŷ Golchi ar noson pleidlais Brexit.
“Arhoson ni ar ein traed gyda’n gilydd i wylio’r canlyniadau’n dod i mewn, ac fe wnaethon i godi hwyliau ein gilydd wrth wylio’r Deyrnas Unedig yn ffrwydro!
“Mae ganddo fe synnwyr digrifwch arbennig, a theulu hyfryd hefyd.”
Pam dysgu Cymraeg?
Cafodd Ignacio Lopez ei fagu ym Mhontardawe, gyda’i fam yn hanu o Gymru a’i dad o Foroco.
“Dw i wedi bod eisiau siarad mwy o Gymraeg erioed,” meddai.
“Dw i wastad wedi gwneud jôcs am ddysgu Cymraeg ar lwyfan.
“Dw i wedi dysgu tipyn bach, ond dw i eisiau cael sgyrsiau go iawn gyda rhywun yn Gymraeg, felly pan ddaethon nhw a gofyn os oedd diddordeb gyda fi, fe wnes i neidio ar y cyfle.
“Mae’n hen bryd, achos dw i’n beirniadu pobol o Gymru sydd ddim yn siarad Cymraeg!
“Dw i’n credu bod rhai pobol yn ofni siarad Cymraeg achos dydyn nhw ddim yn teimlo’n hyderus, ac yn poeni y bydd pobol yn chwerthin arnyn nhw ac yn rhoi amser caled iddyn nhw.
“Ond dw i eisiau chwalu’r rhwystrau, achos mae’n rhan bwysig o’r diwylliant a’n treftadaeth, a dw i’n edrych ymlaen at weld mwy o bobol yn siarad Cymraeg.
“Rhaid i chi fwrw ati, achos mae’n bwysig cael hwyl a gwneud camgymeriadau gyda’ch gilydd wrth gyfathrebu.
“Mae jôcs un llinell gyda fi yn Gymraeg, felly mae’n hwyl cael clymu popeth at ei gilydd, a gobeithio y bydda i’n gallu gwneud sioeau Cymraeg yn y dyfodol.
“Dydy pobol ddim yn disgwyl i rywun â fy acen i siarad Cymraeg ar y llwyfan, ond mae e wedi bod yn grêt!”